y mae a fynnom ar hyn o bryd, a dywedaf fod ei gyhuddwr wrth gloddio pydew i'r Doctor, wedi syrthio iddo ei hunan.
Modd y deallo'r darllenydd yr amgylchiadau dylai wybod,
(a) Fod tri chopi gwreiddiol o ystadegaeth Dr. John Evans ar gael rai blynyddoedd yn ol.
(b) Nad oes ond dau o'r tri hynny ar gael yn awr.
Er mwyn profi ei gyhuddiad yn erbyn Dr. Rees, mae'r cyhuddwr yn rhoi facsimile o un tudalen yn un o gopïau gwreiddiol Dr. John Evans, ond
(c) Tebyg yw mai nid o'r copi hwnnw y cododd Dr. Rees yr ystadegau.
Prin mae angen cymeryd gofod nac amser i brofi (a) a (b). Mae'r profion ar y wyneb i'r neb a gymero'r drafferth i chwilio yn Llyfrfa Dr. Williams yn Llundain. Ar yr un pryd gan y dichon rhai na fedrant ymweled â'r Llyfrfa wybod y ffeithiau, rhoddaf hwynt yma. Yn Llyfrfa Dr. Daniel Williams, ymhlith toraeth o hen lawysgrifau amhrisiadwy, ceir adran neillduol a adwaenir fel III. Records of Nonconformity and Dissenting Institutions." Mae'r cofnodau hyn wedi eu rhifnodi fel hyn:—
No. 1—3. Minutes of the Sessions of the Assembly of Divines (gwel tudal. 91.)
No. 4. An Essay or Enquiry into the State of Nonconformists in England and Wales, A.D. 1717 (say 1715), &c.
No. 5. The State of the Dissenting Interest in the Several Counties of England and Wales in the years [1715 and 1716, and again taken 1772 and 1773. Part I.] 1715 and 1773.
No. 6. A State of the Dissenting Interest in the Several Counties of England and Wales, begun to be collected October 1772.
Nos. 7—11. A Collection of Papers containing an Account of the Original Foundation of some hundred Protestant Dissenting Congregations, the succession of their Pastors, &c.
Mae eraill yn y gyfres. Ond dengys yr uchod eu natur. Yn ychwanegol at y casgliad uchod, mae casgliad a adwaenir fel "The Mill Yard Collection" o hen lawysgrifau. Yn Nghasgliad Mill Yard ceir, "An Essay or Enquiry into the State of Nonconformity in Wales, A.D. 1717 (say 1715). The Number of Ministers. Candidates and Teachers, Their Ordinations, Their Several Denominations. The Number of their Hearers and Freeholders, &c., &c.
Ymddengys mai'r "No. 4" uchod, a'r olaf, yw'r ddau gopi gwreiddiol sydd yn awr ar gael o ystadegaeth 1715.
Mae "No. 5" uchod yn cynwys copi o ystadegaeth 1715, gydag ychwanegiad yn cynnwys ystadegaeth 1772. Am hwn (No. 5) ysgrifenna'r Llyfrydd yn y Catalogue Llawysgrifau fel hyn:
"Mae y rhestri cyntaf, 1715-16 yn cytuno yn gyffredinol a'r rhai geir yn No. 4 (rhestri Dr. John Evans); ond gwahaniaethant gymaint mewn rhai manylion fel ag i ddangos na chodwyd hwynt (No. 5) o No. 4 (rhestri Dr. John Evans) nac o gopi gwreiddiol Mill Yard 1717. . . Rhaid felly fod trydydd copi o'r Llawysgrif gwreiddiol wedi bodoli, wedi ei gasglu o gyffelyb ffynonellau, ond nas gwyddis yn awr pa le y mae."
Dyna brofi (a) a (b), tu hwnt i amheuaeth.
Cadarnheir y gosodiad (c) gan y ffaith fod yr ystadegau a roddir gan Dr. Rees yn ei "Hanes Anghydffurfiaeth yng Nghymru," yn gwahaniaethu mewn nifer o amgylchiadau oddiwrth y copi o'r hwn y cymerwyd y facsimile[1]. (No. 4 uchod.) Nid yw'r gwahaniaethau hyn yn gyfyngedig i unrhyw un sir, nac i unrhyw un dosbarth o ffeithiau. Ceir enwau lleoedd