gorfododd Elizabeth y Senedd i ufuddhau i'w hawdurdod trahaus—falch hi. Pan fynnai Ty'r Cyffredin gyfryngu ar ran y Puritaniaid gorthrymedig, ac esmwythau eu beichiau drwy ddeddf Seneddol, gyrrodd Elizabeth genadwri awdurdodol atynt yn eu gorchymyn i beidio cymeryd dan sylw unrhyw fesur yn ymwneud â phynciau crefyddol, heb i'r cyfryw Fesur ynghyntaf oll gael ystyriaeth a derbyn cymeradwyaeth y Clerigwyr mewn Confocasiwn.
Yr wyf yn pwysleisio yma wrth fyned heibio mai gwleidyddol, politicaidd, yn hytrach na chrefyddol, oedd natur y cyfnewidiad a ddygwyd oddiamgylch fel canlyniad y cweryl rhwng y Pab a Harri. Mae yr un mor wir a hynny fod cysylltiad agos, ym mron anwahanadwy, wedi bodoli byth wedyn rhwng yr ymdrechion i sicrhau rhyddid crefyddol ar y naill law a rhyddid gwladol ar y llall. Diwygwyr Crefyddol Prydain sydd ar hyd yr oesoedd wedi bod yn Ddiwygwyr Gwladol y deyrnas hefyd.[1]
Dywedwyd eisoes mai ar waethaf ac nid trwy gymorth y teyrn a'r llys y gwisgodd y Sefydliad yn Lloegr a Chymru y wedd Brotestanaidd. Nid sefydlu Protestaniaeth ond disodli'r Pab, nid puro'r Eglwys ond gwneud ei hun yn ben arni, oedd amcan mawr Harri.[2] Llwyddodd yn ei amcan, gan siomi felly ddau ddosbarth tra gwahanol yn ei deyrnas—y rhai a fynnent gadw'r cysylltiad a'r Babaeth ar y naill law, a'r rhai a gredent yn egwyddorion Protestaniaeth ar y llaw arall. Testyn cysur y naill oedd achos siom y llall. Cysur y Protestaniaid oedd fod y brenin wedi ymwrthod ag awdurdod y Pab; cysur y
- ↑ "So absolute was the authority of the Crown in this reign that the precious spark of liberty had been kindled, and was preserved by the Puritans alone, and it was to this sect that the English owe the whole freedom of their constitution."—(Hume's History, vol. v.
- ↑ Golygai bod yn Ben yr Eglwys gryn lawer i'r Pab ac i Harri. Fel Pen yr Eglwys, at y Pab yr apeliai Llysoedd Eglwysig Lloegr fel y Llys a'r awdurdod uchaf. Yn nwylaw'r Pab fel Pen yr Eglwys y gorffwysai'r hawl i benodi i Esgobaethau, ac i swyddi Eglwysig eraill. I'r Pab fel Pen yr Eglwys y talai'r Archesgobion, Esgobion, Deoniaid, a'r Clerigwyr mewn bywiolaethau, eu cyflog am y flwyddyn gyntaf ar ol eu penodiad fel teyrnged i'r Pab. Talai'r lleygwyr yr un modd i'r Pab eu "Ceiniogau Pedr," sef ceiniog y flwyddyn am bob aelod.