Y Deffroad Mawr. Merch i weinidog enwog gyda'r Ymneillduwyr, a gwraig i offeiriad da yn Eglwys Loegr, ydoedd. Gan weled fod nifer mawr o'r werin yn y plwyf dros yr hwn yr oedd ei gwr yn fugail cyflogedig, na thywyllent borth yr Eglwys na drws y Capel, o ddechreu blwyddyn i'w diwedd, meddyliodd y gallai dynes o bosibl lwyddo lle y methai yr offeiriad. Yn 1711—dair blynedd cyn geni Howell Harris—arferai'r wraig dduwiol hon gynnal cyfarfodydd i'r bobl ar nos Suliau, a llwyddodd i ddenu iddynt ddynion a gwragedd a. phobl ieuainc na fynychent byth unrhyw le o addoliad. Dygai gyda hi i'r cyfarfodydd ei dau fachgennyn bychan, John yn wyth mlwydd oed, a Charles yn bedair. Gwelai'r plant ddylanwad ysbryd cenhadol eu mam ar y bobl ddigrefydd hyn, a llannwyd eu calonnau ieuainc âg edmygedd. Arhosodd dysgeidiaeth ac esiampl y fam yn ddylanwadau pur, dyrchafol, ac ymgyflwyniadol ym mynwesau'r plant tra buont byw. Fel ffrwyth uniongyrchol y cyfarfodydd hwyrol hyn, cynhyddodd rhif mynychwyr cyson yr Eglwys ddengwaith drosodd—ond yn. gymaint a'u bod yn gwisgo gwedd answyddogol, condemniodd yr awdurdodau Eglwysig gyfarfodydd Mrs. Wesley—canys mam yr enwog John Wesley oedd y wraig dda hon—fel "Cyrddau" (conventicles) anghyfreithlon. Felly argraffwyd yn foreu ar feddyliau tyner y ddau frawd, dri gwirionedd pwysig, sef:—
1. Fod angen dysgeidiaeth grefyddol ar y werin;
2. Fod yn rhaid cyfrannu'r ddysgeidiaeth honno o'r tu allan i'r Eglwys;
3. Nad oedd yr awdurdodau Eglwysig yn ffafru'r cyfryw ymgais.
Fel y gwelir eto gwasgwyd y tri gwirionedd yma'n ddyfnach i'w calonnau'r naill flwyddyn ar ol y llall, nes ynghyntaf fwyta yno fel cancr, ac yna dorri allan yn wenfflam o zel dwyfol ac ymgyflwyniad dynol. Rhwystrwyd mam John Wesley gan yr awdurdodau Eglwysig i gyflawni gwaith efengyles yn ei phlwyf ei hun; trowyd ei dadcu a'i hen dadcu o ochr ei dad, allan o'u bywiolaethau, a gwnaed hwynt yn Ymneillduwyr gan Ddeddf Unffurfiaeth 1662. Mynnai John