Wesley wasanaethu'r Eglwys a orthrymodd ei hynafiaid ac a lesteiriodd ei fam; carai'r Eglwys honno â serch angherddol; ceisiodd a chafodd urddau Eglwysig ynddi;—ond pan brofodd ei zel dros Efengyl Crist yn gryfach na'i syniadau am ffurfioldeb gwasanaeth Eglwysig, trowyd yntau dros y drws fel y trowyd ei dadcu a'i hen dadcu o'i flaen. Eglwyswr egwyddorol a ffyddlon a fu John Wesley hyd ei fedd; gresynnai weled ei ganlynwyr yn troi eu cefnau arni; ac nid oedd dim ond ei awydd angherddol am weled y gwaith da a ddechreuwyd ganddo yn cael ei gario ymlaen ar ol ei ddydd, yn ei gymodi â'r syniad o sefydlu Wesleyaeth fel cyfundrefn grefyddol anibynnol ar Eglwys Loegr.
Ei fam blannodd ynghalon John Wesley egwyddorion y Diwygiwr; Cymro, William Morgan, a roddodd gyfeiriad ymarferol i'w Gristionogaeth; Sais, William Law, a'i dysgodd i gasglu ei ddychweledigion at eu gilydd yn ddosbarthiadau neu gymdeithasau crefyddol. Gartref, yn blentyn, y cafodd y cyfeiriad cyntaf; ym Mhrifysgol Rhydychain, yn llanc ieuanc, y derbyniodd y ddau olaf. Yno, fel y gwnai John Penry a'i gyd-ddiwygwyr saith ugain mlynedd cyn hynny, cyfarfyddai nifer o fyfyrwyr ieuainc duwiolfrydig i astudio dysgeidiaeth dau fyd; ar nosweithiau o'r wythnos cyd-ddarllenent y clasuron ar gyfer Arholiad y Graddau; ar ddydd yr Arglwydd, cyd-ddarllenent ac esboniant y Beibl ar gyfer Arholiad Mawr y Dydd Diweddaf. Gwnaed hwynt yn gyff gwawd i'w cyd-fyfyrwyr; gelwid hwynt yn "Glwb Santaidd," yn "Sacramentwyr," ac yn "Fethodistiaid."
Nid enw newydd ar sect newydd o grefyddwyr oedd "Methodistiaid " hyd yn oed yn nyddiau cychwyniad Wesley. Hen enw ydoedd, a arferid o leiaf bedwar ugain mlynedd cyn hynny i ddynodi Diwygwyr Crefyddol. Tybia rhai mai cyfeiriad oedd yr enw a roddwyd ar Wesley a'i gyfeillion, at y Coleg Meddygon yn Rhufain a elwid yn Methodista (neu yn ol Ainsworth Methodici) oherwydd eu dull trefnyddol o drin eu cleifion. Ond yr oedd yn Eglwys Rufain blaid a elwid yn "Fethodistiaid "[1] am y
- ↑ Mosheim's Eccles. Hist. 17th Cent., Sect. ii., p. 1.