deyrnas, yn enwedig yn y trefi, er cario allan yr amcanion hyn. Gellir gobeithio nad oes ond ychydig leoedd lle na cheir o leiaf dri neu bedwar o bersonau o'r naill enwad neu'r llall o Gristionogion, sy'n meddu zel dros Dduw a Chrefydd, a allent ffurfio eu hunain yn gymdeithas yr hon y gellid ei heangu yn raddol. .. Mae uno dynion da mewn Cymdeithasau duwiol o'r fath er adenill gallu yn ogystal a ffurf crefydd, yn beth a gymeradwyir i holl gyfeillion Duwioldeb a Rhinwedd. Gellir disgwyl y bydd i bawb sy'n meddu parch gwirioneddol i anrhydedd Duw, eu dedwyddwch eu hunain a'u gwlad, ymdrechu yn selog yn eu gwahanol gylchoedd er perffeithio y cynllun eang hwn. .. . Cydnabyddir ein bod i ymdrechu nid yn unig dros ein hiachawdwriaeth ein hunain, ond dros eneidiau ein gilydd, ac i geisio hyrwyddo hynny yn ol ein cyfleusderau a'n manteision. Mae y cyfryw ofal yn amlygiad o'n cariad at ein cymydogion, yn wir dderbyniol gan Dduw Hollalluog. Mae Gweddi, Cymhelliad, Rhybudd, Cerydd, ac Esiampl Dda, yn foddion pwrpasol i'r amcan hwn, a gorchymynnir hwynt yng Ngair Duw."
Arwyddwyd anerchiad i'r awdwr, yn cymeradwyo'r llyfr, gan nifer o urddasolion, ac ymhlith y pendefigion Cymreig a wnaeth hynny ceir Arglwyddi Penfro, Maesyfed, ac Abergafenni, ac Esgob Bangor.
Dyna gyfundrefn o gymdeithasau crefyddol, yn gweithredu i raddau pell ar linellau Seiadau'r Methodistiaid, yn bodoli yn dra chyffredinol drwy'r deyrnas cyn diwedd y 17fed canrif. Nid oedd John Wesley, ar y dechreu, yn golygu i'w seiad fechan ef yn Rhydychain, i fod yn ddim amgen na chyfeillach grefyddol gydag amcanion defosiynol cyfrinachol.
Ond yr oedd ymhlith aelodau'r gyfeillach ddyn ieuanc o Gymro, o'r enw William Morgan. Hwn gymhellodd Wesley i roi ffurf ymarferol i'w Gristionogaeth, drwy ymweled â'r carcharorion ac â'r tlawd a'r anghenus, i'w dyddanu a gweinyddu i'w rheidiau. Gomeddodd ar y cyntaf wneud, ond perswadiwyd ef gan Morgan—a dyna ddechreu gweinidogaeth gyhoeddus John Wesley fel Diwygiwr. Yn groes i ewyllys ei dad y gwnaeth Morgan hyn. Ysgrifennodd ei dad ato i'w feio am fod a wnelai â'r "gyfeillach ddirmygus hon, a myned oddiamgylch i'r pentrefi gan gasglu'r plant ynghyd a dysgu iddynt eu gweddiau a'u catecism." Ond cyn marw ei fab ymhen dwy flynedd wedyn (1732), yr oedd wedi cael y fath ddylanwad ar ei dad, fel yr ysgrifennodd hwnnw at John Wesley yn cynnyg rhoi unrhyw gynhorthwy a allai iddo yn ei waith. Heblaw'r ddau frawd Wesley, a Morgan, ceir ymhlith aelodau'r Seiad yn Rhydychain, ddynion enwog eraill, megys John