ei hun. Dichon mai gwenu a wna llawer yn yr oes bresennol wrth feddwl am y cyfryw "benboethni "—ond ceir ynddo brawf o angerddolrwydd y teimlad a ddylanwadai ar y gwyr a ddefnyddiwyd wedi hyn gan Ysbryd Duw i achub miloedd o eneidiau. Yn llawn o'r tân dwyfol a losgai yn eu mynwesau, er nad oedd eto wedi torri allan yn fflam ddisglaer i oleuo'r tywyllwch oedd yn gordoi'r bobloedd, aeth aelodau Cymdeithas Rhydychain allan i'r byd, a phob un yn cario gydag ef yr ysbryd a'i meddiannodd yn y Brifysgol. Daeth pob un o honynt yn ganolbwynt bywyd crefyddol ei gartref newydd. Aeth Whitefield, a'i nerth corfforol wedi pallu gan gaethiwed ei ymarferiadau crefyddol yn Rhydychain, yn ol i'w wlad enedigol—a'i waith cyntaf yno oedd sefydlu seiat ar linellau un y coleg. Cariodd allan hefyd yr hyn a ddysgodd Morgan i'r Rhydycheinwyr bum mlynedd cyn hynny, gan ymweled yn gyson â'r tlodion, ac unwaith yr wythnos â'r carcharorion yng Ngharchar Caerloyw, gan ddarllen a gweddio gyda hwynt, a chyfrannu i'w rheidiau. Fel mai Cymro, Morgan, roddodd ffurf ymarferol i Gristionogaeth Wesley, Cymro hefyd, yr enwog Matthew Henry, roddodd gyfeiriad cywir i argyhoeddiadau crefyddol George Whitefield. Yn y Beibl y cafodd Whitefield ei Weledigaeth; yno y cafodd y Freuddwyd Nefol a lywiodd ei holl fywyd cyhoeddus; ond Matthew Henry weithredodd fel dehonglydd y freuddwyd iddo. Treuliodd Whitefield amser maith yn astudio Esboniad Matthew Henry. Darllenodd ef o glawr i glawr bedair gwaith trosodd. Un o'r troion hynny y cyntaf—darllenodd ef ar ei liniau o'i ddechreu i'w ddiwedd, gan dybied nad oedd un agwedd gorfforol arall yn deilwng i astudio gwaith mor ysbrydoledig. Gellir olrhain dylanwad Esboniad Matthew Henry, ar holl gyfeiriad gweinidogaeth gyhoeddus George Whitefield. Ond nid oedd y tywalltiadau nerthol eto wedi dyfod. Dafnau tyner, anaml, cyntaf y cwmwl oedd y pethau hyn, rhagarwyddion a rhag-redegwyr y gafod fawr lifeiriol oedd ar ysgubo drwy'r holl fyd.
Yr oedd amgylchiadau Cymru i raddau'n wahanol. Yr oedd y Dywysogaeth hithau'n mwynhau i raddau rai o'r dylanwadau