Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/246

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a barotoent y ffordd i'r Diwygiad yn Lloegr. Er engraifft, yr oedd rhan o ddylanwad Cymdeithasau Diwygio Arferion, a chyfran o ddylanwad y Morafiaid, ac o leiaf adsain gweithrediadau Methodistiaid Rhydychain, wedi cyrraedd Cymru.

Ond yr oedd dylanwadau eraill, arbennig, os nad cyfyngedig, i Gymru, hefyd ar waith. Nid peth newydd i Gymru oedd y cyfeillachau crefyddol. Yr oedd John Myles gyda'r Bedyddwyr, a Stephen Hughes gyda'r Anibynwyr, yn y ganrif o'r blaen, wedi sefydlu cymdeithasau o'r fath yn eu gwahanol gylchoedd gwaith hwy. Ac er nad oeddynt yn gyffredinol pan dorrodd y Diwygiad allan, nid oeddent i Ymneillduwyr y Dywysogaeth y dyeithr bethau a allent fod i Ymneillduwyr Lloegr.

Nid oedd Cymru, ychwaith, mor ddyeithr i fudiadau cenhadol ag oedd Lloegr. Gan nad beth a ellir ei ddyweyd mewn condemniad ar gynllun Cromwell o Efengyleiddio Cymru drwy ddeddf Seneddol, yr oedd o leiaf wedi rhoi i'r Ymneillduwyr yng Nghymru syniad am natur mudiad cenhadol. Ac hyd yn oed pe na bae'r Dywysogaeth wedi manteisio ar yr hyn a ddysgodd Cromwell iddi, yr oedd y ffaith fod cenhadaeth o'r fath wedi bod mewn gweithrediad yma, wedi gwneud i'r farn Ymneillduol ymgynefino â'r syniad o genhadaeth grefyddol. Ond fel y gwelir yn y man yr oedd Ymneillduwyr Cymru yn yr oes honno, wedi gosod mewn gweithrediad ymarferol, drwy'r egwyddor wirfoddol, yr hyn a geisiodd Cromwell ei wneud drwy rym cyfraith—sef ceisio lledu gwybodaeth o'r Efengyl ymysg y bobl. Bodolai yn Lloegr ar y pryd tair Cymdeithas Genhadol. 1. Cymdeithas Lledaenu'r Efengyl yn Lloegr Newydd. Sefydlwyd gan y Senedd Werinol yn 1649, ac adsefydlwyd gan Siarl II. yn 1661. Amcan arbennig hon oedd efengyleiddio Indiaid America.

2. Cymdeithas Lledaenu'r Efengyl mewn Gwledydd Tramor. Sefydlwyd gan William III. yn 1701. Amcan hon oedd sefydlu Eglwys Loegr yn y sefydliadau Prydeinig.

3. Cymdeithas Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol. Sefydlwyd 1701. Amcan hon oedd sefydlu Ysgolion Rhad drwy'r deyrnas, a dosbarthu Beiblau a Llenyddiaeth Grefyddol.

Mor bell ag oedd a fynnai cenhadaeth yr olaf, yr oedd Griffith Jones, Llanddowror, eisoes drwy ei Ysgolion Rhad