Cylchdeithiol wedi gwneud daioni anfesuradwy yng Nghymru.[1] Drosodd a throsodd drachefn cawn Wesley, a Whitefield, a Howell Harris, ac eraill, yn talu gwarogaeth i'r Tywysog a'r Gwr Mawr hwn yn Israel, ac i'r gwaith rhagorol a gyflawnodd fel athraw ac fel Efengylwr cyn i'r naill na'r llall ohonynt hwy ymddangos ar y maes. Teimlai Harris hi yn anrhydedd fod gŵr fel Griffith Jones yn "ymostwng" (condescend) ato ef â'r "Methodistiaid."[2] Fel yr ä Mahometan selog bellder daear at fedd Mahomet ym Mecca, felly yr ai Howell Harris dro ar ol tro i Landdowror tra'r proffwyd yno eto'n fyw, i dderbyn ysbrydoliaeth newydd oddiwrth ei ddysgeidiaeth gyhoeddus, a'i gynghorion cyfrinachol—ac i adrodd hanes ei garwriaeth wrth yr hen wr. Nid yw hyn yn golygu fod Griffith Jones yn cymeradwyo dull Howell Harris ac eraill o gario'r gwaith ymlaen. Fwy nag unwaith rhoddodd y patriarch o Landdowror sèn iddynt am yr hyn a wnaent. Mae Howell Harris ei hun yn ddigon gonest i gofnodi'r ffaith yn ddigêl yn ei ysgrifeniadau. Er mai Eglwyswr selog oedd Griffith Jones, perchid ef gan yr Ymneillduwyr, y rhai a dyrrent i'w wrando, fel y tyrrai eu tadau i wrando'r hen Ficer Prichard. Edmygai yntau hwythau, a'u zel a'u llafur,—ac ymhlith y cyhuddiadau a ddygid i'w erbyn gan ei gyd—Eglwyswyr, haerid ei fod yn rhy ffafriol i'r Ymneillduwyr, ei fod wedi gwasgaru miloedd o gopïau o Gatecism Matthew Henry yn Gymraeg,—a'i fod wedi astudio Hebraeg o dan Mr. Perrot, Prifathraw Caerfyrddin!
Os do, nid Griffith Jones oedd y cyntaf na'r olaf o urddasolion Eglwysig nac o Ddiwygwyr Crefyddol ei oes, oedd yn ddyledus i ysgolheigdod Ymneillduwyr am eu haddysg. Ped olrheinid hanes y myfyrwyr fu o dan ofal Samuel Jones, Brynllywarch, ceid fod yn eu plith nifer a ddaethant yn golofnau disglaer yn yr Eglwys Wladol yn ogystal ag ymhlith yr Ymneillduwyr.
- ↑ Sefydlodd Griffith Jones mewn gwahanol ardaloedd, ar wahanol adegau, 3185 o ysgolion, yn y rhai yr addysgwyd dros 150,000 o ysgolorion. Mynychid hwynt gan oedogion yn ogystal a phlant, ac heb law dysgu darllen, holwyddorid yn rheolaidd, ac esbonnid yr Ysgrythyrau ynddynt.
- ↑ Dyddlyfr Howell Harris. Rhif 109. Ebrill 20, 1744.