Mewn Ysgol Ymneillduol y cafodd Howell Harris ei hun ei addysg; o'r Ysgol honno (Llwynllwyd) yr aeth i Rydychain. Ymhen pedair blynedd ar ei ol ef, wele Williams Pantycelyn yn fyfyriwr yn yr un ysgol—a phwy a all fesur maint dylanwad yr Athraw Ymneillduol ar y ddau ddyn sy'n llenwi cymaint o le yn hanes y Diwygiad Mawr yng Nghymru? Dynion o alluoedd meddyliol cryf, ac o ddysgeidiaeth eang a dofn, oedd y rhai yn y dyddiau hynny a herient y gyfraith drwy gynnal Ysgolion a Cholegau Ymneillduol. Un o nodweddion yr hen dô o weinidogion Ymneillduol, oedd eu hysgolheigdod. Yn wir, dyma un o'r nodweddion a ddirmygid ychydig yn ddiweddarach yn "Y Senters Sych" gan ganlynwyr Howell Harris.
Ond yr oedd yr ysbryd cenhadol hefyd yn fyw ymhlith yr Ymneillduwyr, yn y naill enwad fel y llall. Darllener hanes ac olrheinier llafur Enoch Francis yn y Gorllewin, a Miles Harry yn y Dwyrain, ymhlith y Bedyddwyr; eiddo Phylip Pugh yng Ngheredigion, ac Edmwnd Jones yng Ngwent a Morgannwg, ymhlith yr Anibynwyr—heb enwi ychwaneg, a chawn yn codi o flaen ein llygaid, golofn ar ol colofn, yn coffadwriaethu ini lafurus gariad Y Tadau mewn ymdrech genhadol cyn dechreu'r Diwygiad Mawr yng Nghymru. Os eir yn fanwl ar ol hanes crefyddol y cyfnod o'r adeg y pasiwyd Deddf Goddefiad, yn 1689, hyd i'r Diwygiad dorri allan ymhen hanner can mlynedd wedyn, gwelir yn amlwg y gwahaniaeth rhwng Lloegr a Chymru. Tra nodwedd Ymneillduaeth yn Lloegr oedd diffyg cynnydd ac absenoldeb gweithgarwch, rhoddwyd profion eisoes (tud. 198—205) i ddangos fod Ymneillduaeth Cymru yn fyw, gweithgar, blodeuog, a llwyddiannus. Dyma baratoad mewn gwaith erbyn ymweliad yr Ysbryd Glan. Ac mae yr un mor amlwg fod y paratoad hyn ar gyfer derbyn. y tywalltiadau, wedi cario ei effaith ar y genadwri pan ddaeth. Gwelir ar Map Rhif 5, yn ddarlun byw ger bron ein llygaid, mai yn yr ardaloedd lle roedd yr Ymneillduwyr wedi bod mwyaf llafurus, y bu'r "Methodistiaid" cyntefig fwyaf llwyddiannus.
Gyda hyn, eto, yn y deunaw mlynedd cyn y gwelwyd