Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os syrthiodd llawer o'r had ar fin y ffordd, neu ar y creigleoedd, neu ymhlith drain, syrthiodd peth i dir da—a dygodd ffrwyth.

Dechreuodd pobl llygadgraff weled fod dysgeidiaeth y Beibl yn gwahaniaethu yn hanfodol oddiwrth ddysgeidiaeth yr Eglwys. Dechreuasant holi ai'r Eglwys ai'r Beibl a ddylai fod yn "rheol ffydd ac ymarweddiad" iddynt, ac ai gair dyn ynte Gair Duw a dderbynient. Nid syn gennym ddeall i'r fantol droi mewn rhai amgylchiadau o blaid Gair Duw—er mai gorchymyn brenin oedd y gair dyn yn y cawg arall o'r fantol.

Erbyn hyn yr oedd dau gynrychiolydd mawr y ddwyblaid gydymdrechent, wedi dyrchafu i enwogrwydd ac awdurdod. Yr oedd Cranmer fwyn a gwan, a'i dueddiadau at Brotestaniaeth, wedi cael ei benodi yn Archesgob Caergaint—ac yr oedd Gardiner greulon a chryf wedi disodli Thomas Cromwell yn y llys ac wedi ennill clust y brenin. Dygodd Cranmer ei Feibl mawr allan o'r wasg yn 1540. Gardiner, gan weled fod darllen y Beibl yn agor gormod ar lygaid y werin a fynnodd basio deddf, yn 1543, yn gwahardd i'r cyffredin bobl ddarllen Gair Duw; mynnai hefyd gyfyngu ar hawl hyd yn oed yr Esgobion i'w ddarllen a'i esbonio, a chyfarwyddwyd hwynt i baratoi llyfr a elwid "Yr Athrawiaeth a'r Addysg Angenrheidiol i unrhyw Gristion."

Felly cafodd Cranmer a Phrotestaniaeth godwm. Ond nid hir y bu Cranmer cyn cael yr afael uchaf drachefn. Bu farw Harri yn 1547, a theyrnasodd ei fab ieuanc Edward VI. yn ei le. Naw mlwydd oed ydoedd pan esgynnodd i'r orsedd, ac am chwe mlynedd fer yn unig y gwisgodd y goron. Gwnaed Iarll Hertford, neu y Duc Somerset, yn Arglwydd Raglaw'r deyrnas,—a ffafrai efe y ddysgeidiaeth newydd. Yn cael ei gymhell gan Cranmer dileodd Ddeddf y Chwech Erthygl, a'r deddfau penydol yn erbyn hereticiaid. Gwnaeth i ffwrdd ag offerenna dros y marw, gorchymynnodd symud y delwau a'r darluniau Pabyddol o'r Eglwysi, a chorffolodd ddaliadau Protestaniaeth yn ei Ddwy Erthygl a Deugain—y rhai mewn cyfnod diweddarach a gwtogwyd i'r Deugain Erthygl ond Un