Yng Nghymru Howell Harris, Daniel Rowlands, a Howell Davies a ysgydwasant y wlad, yn grefyddwyr ac yn rhai digrefydd, i sefyll ac edrych yngwyneb Cyfrifoldeb dyn a Gofynion Duw. Yn Lloegr, George Whitefield a John Wesley yw'r ddau ffigiwr mawr sy'n sefyll i fyny fel yr Wyddfa a Chader Idris yn amlwg ymhlith y mynyddoedd. Nid yw hyn yn golygu nad oedd eraill yn gwneud gwaith pwysig, ac, o bosibl, amhrisiadwy ac anfesuradwy, i hyrwyddo'r diwygiad ym mlaen. Ond dyma'r dynion sy'n sefyll allan yn amlwg yn llygad y cyhoedd. Wedi dechreu'r gwaith mawr daeth Wesley a Whitefield yn amlycach na neb arall, fel trefnwyr ac arweinwyr y mudiad oedd â'i amcan i achub eneidiau yn hytrach nag i ffurfio sect. Ac nis gellir edrych ar waith y ddau ddyn hyn, heb deimlo yn argyhoeddedig fod rhyw Allu a Dylanwad o'r tu allan iddynt eu hunain, yn trefnu eu llwybrau iddynt. Nid ar hyd y llwybrau y mynnent hwy gerdded y rhodiasant; nid y pethau a fwriadent hwy a gyflawnasant; gwasgwyd, gorfodwyd hwynt, i wneud yr hyn na ddaeth i'w bryd erioed i feddwl am ei wneuthur.
Yn Eglwys Loegr y dymunent aros,—ond ni fynnai hi eu cadw. Ei gwasanaethu hi fel llawforwyn yr Arglwydd, oedd eu hamcan—ond gwrthodwyd eu gwasanaeth. Pan fynnent hwy wasgu eu gwasanaeth arni, trowyd hwynt eill dau dros y drws.
Cyn i Wesley fynd i'r America, yr oedd yn boblogaidd yn yr Eglwys, a'i phwlpudau bob amser yn agored iddo. Pan ddychwelodd, cauwyd yr Eglwysi i'w erbyn, a gwaherddid eu pwlpudau iddo. Yr un hefyd a fu profiad Whitefield. Efe oedd arwr mawr y dydd yn Lloegr, cyn cychwyn o hono i Georgia i gymeryd i fyny yno y gwaith y galwodd Wesley ef ato. Yr oedd yr Esgob Benson wedi torri ar ei reol gyffredin, drwy roddi urddau clerigol iddo cyn cyrraedd o hono yr oedran arferol at hynny. Pan aeth o Bryste i Lundain nid oedd yn y brifddinas adeilad digon mawr i gynnwys y tyrfaoedd a ddymunent ei wrandaw. Pan ddaeth gyntaf yn ol o Georgia