Gwladol. Ond yr oeddent wedi beiddio ymadael oddi—wrth yr hen lwybrau arferedig. I offeiriaid Eglwys Loegr, ac i raddau llai i rai o'r gweinidogion Ymneillduol yn Lloegr, yr oedd yr offeiriadaeth a'r weinidogaeth wedi dod i gael eu hystyried yn swyddi galwedigaethol, yn hytrach nag yn Alwedigaeth Santaidd "—mor bell, o leiaf, ag oedd a fynnai eu cyflawniad hwy o ddyledswyddau'r alwedigaeth. Tybient tra y cyflawnent y dyledswyddau ffurfiol cyhoeddus, eu bod yn gwneud popeth a allesid ddisgwyl iddynt wneud—am y cyflogau a dderbynient; ac, fel y gwelwyd (tud. 206), nid oedd pawb o honynt yn meddwl fod galw arnynt i wneud hyd yn oed hynny! Yr oedd eithriadau disglaer, mae'n wir, ymhlith yr Eglwys a'r Ymneillduwyr yn Lloegr, ac yr oedd yr eithriadau hynny yn lliosocach fyth yng Nghymru. Ebe Whitefield, am ei ymweliad cyntaf â Chymru:—
"Mae Cymru wedi cael ei pharatoi yn odidog ragorol at Efengyl Crist. Mae ganddynt amryw oleuadau disglaer yn llewyrchu ymhlith yr Ymneillduwyr a'r Eglwyswyr."
Anhawdd fuasai cael dynion mwy duwiolfrydig, mwy ymgyflwynedig, ac yn meddu syniadau uwch am natur yr Alwedigaeth Nefol, er engraifft, na'r dynion da a enwyd yn nechreu'r bennod hon. Ac yr oedd llawer o gyffelyb ysbryd iddynt hwy. Ond yn Eglwys Loegr yn arbennig, edrychai mwyafrif mawr y clerigwyr gydag anghymeradwyaeth ar y sawl a fynnent daflu zel neu ddifrifoldeb mwy na'r cyffredin i'w gwaith.
A hyn a wnai'r Diwygwyr yn ddieithriad. Pregethent yr hen bregethau gyda'r fath angerddolrwydd nes yr ymddanghosai i lawer fel Efengyl newydd—ac o'i chymharu a'r Efengyl fel y'i pregethid o fwyafrif pwlpudau'r Eglwys, Efengyl newydd ydoedd mewn gwirionedd. Yr oedd yr adenedigiaeth wedi cael ei ddysgu fel athrawiaeth sych o'r pwlpudau ar hyd y blynyddoedd, ond yr oedd cymaint o wahaniaeth rhwng athrawiaeth yr adenedigaeth fel y'i pregethid yn yr Eglwysi, ag ydoedd fel y'i pregethid gan y Diwygwyr, ag sydd rhwng delw pren a dyn llawn bywyd. Gwnaed yr adenedigaeth a chyfiawnhad