trwy ffydd, yn ffeithiau byw, hanfodol i gadwedigaeth pob dyn, ac nid y ddamcaniaeth athrawiaethol anatyniadol a ymddanghosai ym mhregethau mwyafrif Clerigwyr yr oes. Yr oedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy Efengyl, neu i fod yn llythrennol gywir, rhwng y ddau ddull o bregethu yr un Efengyl, hyd yn oed pan gyfyngid y pregethiad o honi i bwlpudau'r Eglwys, yn ddigon amlwg i dynnu sylw, ac i beri i ddynion ystyriol gymharu'r Offeiriad a'r Diwygiwr, y Gwas Cyflog a'r Gwir Fugail, a'u gilydd;—ac yr oedd y Gwas Cyflog yn ddigon call i weled pa un o'r ddau a ddioddefai oddiwrth y gymhariaeth, pe y caniateid i'r "penboethiaid" hyn ymyrryd a'u corlannau hwy. Ond er amlyced oedd pan bregethid y ddwy o'r un pwlpud, daeth yn amlycach fyth pan bregethai'r Offeiriad o'r pwlpud a'r Diwygiwr yn y fynwent, y naill yn y Llan a'r llall ar yr heol—ac i hyn y daeth yng nghyflawnder yr amser oedd bellach wrth y drws.
Tua chanol Tachwedd, 1738, daeth Whitefield yn ei ol o'r America. Brysiodd Wesley i Lundain i gyfarfod ei gyfaill a'i ddisgybl. Gweddus yw dweyd yma fod cyfeillgarwch yn dal i uno'r ddau o hyd, er fod pynciau athrawiaeth yn tueddu i'w hysgar. Yn hyn o beth gwahaniaethai'r ddau Wesley a Whitefield yn fawr oddiwrth yr arweinwyr yng Nghymru, lle yr ysgarodd cwerylon am byth gyfeillion oes. Parodd gwahaniaeth barn rhwng Arminiaeth Wesley a Chalfiniaeth Whitefield, rwyg barhaol yn y gyfundrefnaeth,—ond ni fu'r rhwyg ond am dymhor byr iawn yn rhy lydan i gyfeillgarwch fwrw pont dros y gagendor. Parhaodd teimladau personol y ddau Wesley a Whitefield at eu gilydd, yn gynnes wedi i'w canlynwyr sefydlu gwersyllfeydd gwahanol ac hyd yn oed gwrthwynebol.
Ond i ddychwelyd at Wesley a Whitefield yn cydgyfarfod. Melus oedd y gyfeillach. Adroddai'r naill wrth y llall y mawrion bethau Duw a wnaeth yr Arglwydd drwyddynt er pan ymadawsant a'u gilydd dair blynedd cynt. Gyda'r frawdoliaeth yn y Seiad yn Fetter Lane, Llundain, treuliwyd aml i awr ddedwydd. Pregethai a chynghorai'r ddau yn y gwahanol