Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/256

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob nos. Y Sabath canlynol, Ionawr 7fed, 1739, pregethodd ddwywaith, anerchodd dair o Seiadau gwahanol; ac, ebe fe, "treuliais yr holl noson mewn gweddi a diolch yn Fetter Lane." Trannoeth ysgrifenna:—

"Llun, Ionawr 8fed. Er imi aros i fyny drwy'r nos neithiwr, cariodd yr Arglwydd fi drwy waith y dydd heb ddim ond awr o gysgu. Yn yr hwyr esboniais yr Ysgrythyrau, gan ddymchwelyd rhesymau un a wrthwynebai athrawiaeth yr ad-enedigaeth a chyfiawnhad drwy ffydd. Yna treuliais y gweddill o'r nos gyda'r bands, sef cyfeillachau o hanner dwsin neu ragor o Gristionogion yn cyfarfod â'u gilydd i gymharu profiadau â'u gilydd."

Nodir y manylion hyn er dangos mor llwyr yr oedd y Diwygwyr hyn wedi cael eu meddiannu gan Ysbryd yr Arglwydd, a'r paratoad oedd eisoes wedi cael ei wneud i groesawu'r Diddanydd Arall pan ddeuai. Profiad Whitefield oedd profiad y Diwygwyr eraill hefyd. Yr oedd y Seiadau gwasgaredig wedi bod am wythnosau ymron yn ddibaid wrth Orsedd Gras, a'u haelodau yn dyddanu eu gilydd ag ymadroddion am deyrnas nefoedd. Yr oedd yr aelodau, felly, wedi cael eu trwytho â syniadau ysbrydol, a'r llefarwyr cyhoeddus wedi cael eu meddiannu yn gyfangwbl â dawn yr Ysbryd. Cwestiwn calon pob un o honynt yn awr ydoedd, "Pa beth a fynni Di imi ei wneuthur?"

Ac nid hir y bu'r ateb cyn dod—er mai nid yr ateb a ddisgwylid nac a ddymunid ydoedd. Whitefield eto oedd yr un a ddewiswyd gan Ysbryd yr Arglwydd i dorri tir newydd, ac i rodio llwybr na freuddwydiodd efe na'i gyd-lafurwyr y galwesid byth arnynt i'w gerdded. Aeth i lawr i Bryste, yn ymyl cartref ei enedigaeth. Disgwyliai gael pregethu yno—ond cauwyd yr eglwysi i'w erbyn. Yn llawn o'r tân a ddisgynnodd i'w galon yn y gyfeillach yn Fetter Lane ddydd Calan, teimlai y rhaid iddo draddodi'r genadwri a osododd yr Arglwydd yn ei enau; a chan na chai bregethu mewn eglwys o adeilad—waith dyn, penderfynnodd fyned i deml, "saer ac adeiladydd yr hon yw Duw." I'r maes agored, gyda'r ffurfafen uwchben fel unig dô y deml, yr hwyrddydd oer a rhewllyd hwnnw yng nghanol Chwefror, 1739, y pregethodd Whitefield am y tro