Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/257

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf erioed yn yr awyr agored, i tua chant o lowyr Kingswood yn ymyl Bryste.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Ddiwygwyr Lloegr fynd allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau. Ac eto nid peth newydd oedd hyn. Yr oedd Howell Harris eisoes wedi gwneud hynny yng Nghymru. Ac nid efe oedd y cyntaf. Yr oedd Ymneillduwyr Cymru yn cadw pwlpudau yn yr awyr agored yn yr haf. Gwelsom eisoes mai yn y caeau ger Llundain y cyfarfyddai Eglwys Ymneillduol Wandsworth. Ac hyd yn oed cyn eu dyddiau hwy, yr oedd yr Esgob Hooper yn cynnal gwasanaeth yn yr awyr agored, gan nad oedd adeilad digon mawr i gynnwys y torfeydd a'i canlynent. Ond peth newydd a dyeithr ydoedd yngolwg dynion fel Wesley a Whitefield, y rhai a feddiennid gan y syniad o gysegredigrwydd lle. Nid oeddent eto wedi dysgu gwers Samaria yr Arglwydd Iesu, mai'r gwaith sy'n cysegru lle, ac nid y lle sy'n cysegru'r gwaith. Am y rheswm hwn cafodd Whitefield anhawsder mawr i berswadio Wesley i ddod ato i Bryste, ac i gymeryd rhan gydag ef yno yn y genhadaeth awyr agored oedd newydd ei sefydlu.

A bu i'r genhadaeth honno hanes heb ei bath. Er dyddiau'r Pentecost yn Jerusalem, ni welodd y byd amlygiadau mwy nerthol o ddylanwad yr Ysbryd Glan ar galonnau, cydwybodau, ïe, a chyrff dynol, nag a gafwyd yn y Bedydd Pentecostaidd yn 1739. Cant oedd rhifedi y gwrandawyr yn yr oedfa gyntaf yn yr awyr agored yn ymyl Bryste. Glowyr anllythrennog oeddent oll, nid yn unig yn anysgedig ond yn ddiddysg hefyd. Nid oes dosbarth o weithwyr yn y deyrnas heddyw mewn cyflwr moesol a deallol mor isel ag oedd cynulleidfa gyntaf George Whitefield yn y genhadaeth hon. Ac eto, o'r funud y disgynnodd swn ariannaidd ei eiriau gyntaf ar eu clustiau, hyd nes y terfynnwyd yr oedfa, meddiannodd eu holl sylw. Deffrodd o'u mewn deimladau na wyddent ddim am danynt yn flaenorol. I bob diben ymarferol yr oedd cynulleidfa George Whitefield yn Kingswood yn Chwefror, 1739, mor baganaidd, mor dywyll, mor anwybodus am Dduw, a Beibl, a Barn, a Byd a Ddaw, a