Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gaerfyrddin, a'r diwygiwr ieuanc o Sir Gaerloew, wirioneddau mwy plaen a miniog, nag a glywodd y bendefigaeth yno erioed o'r blaen.

Gohebodd Whitefield â Howell Harris ac Edmwnd Jones yng Nghymru, ac â Wesley ac eraill yn Lloegr. Fel y ceir gweled eto, yr oedd cyffelyb waith yn cael ei wneud yng Nghymru, ag oedd ef wedi bod yn wneud yn Llundain cyn ei ymweliad â Bryste; ond er fod amlygiadau nerthol o ddawn yr Ysbryd wedi cael eu profi, nid oedd y tywalltiadau mawr a chyffredinol eto wedi cymeryd lle yno, er fod Cymru hefyd ar fedr eu profi. Croesodd Whitefield i Gaerdydd, a chyfarfyddodd yno â Howell Harris, a'r hwn yr oedd wedi dechreu gohebu ddeufis cyn hynny. Ceir hanes gwaith Whitefield yng Nghymru mewn pennod arall, ond gellir nodi yma wrth fyned heibio, fod Diwygwyr Cymru, o bob enwad, ac o unfryd calon, wedi cydnabod Whitefield fel Blaenor Cyffredinol y mudiad diwygiadol yng Nghymru fel yn Lloegr, o'r dydd y gosedodd ei droed gyntaf ar draethell y Dywysogaeth. Ymhen tair blynedd wedi hynny, fel y gwelir eto, cydnabyddwyd ef yn ffurfiol fel Pen-cadlywydd byddin gyfundrefnol y mudiad diwygiadol yng Nghymru. Ond cyn, ac wedi hynny, uchelgais Howell. Harris—hyd yr adeg y daeth dylanwad arall a dyeithr i mewn i'w fywyd, ac am yr hwn yr ymdrinir eto,—oedd cael bod yn gynorthwywr ufudd i George Whitefield.

Dywedwyd fod Whitefield, ar ol yr amlygiadau mawr a nerthol a gafwyd yng nghymydogaeth Bryste, wedi ysgrifennu at Wesley, yn ei annog i ddod trosodd i gario'r gwaith da ymlaen. Daeth y cais fel ysgytiad i syniadau uchel Eglwysig John Wesley. Anhawdd oedd ganddo ddygymod â'r syniad o fwrw ymaith hen wisg arferiad Eglwysig. Ymgynghorodd drachefn—fel y gwnaeth droion cyn hynny—â'i gyfeillion y Morafiaid. Ar ol ympryd a gweddi, cyfarwyddwyd ef ganddynt hwy mai llais yr Arglwydd oedd yn ei alw. Heb betruso dim bellach, nac ymgynghori â theimladau cig a gwaed, prysurodd