Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

presennol. Cafodd Cranmer gynorthwywyr parod yn yr Esgobion Latimer a Ridley. Pregethwr hyawdl oedd Latimer, a mynnodd Edward Frenin bychan wneuthur pwlpud iddo yn ngardd y palas—ac yno yr hoffai y bachgennyn brenhinol eistedd i wrandaw ar y pregethwr mawr oedrannus am oriau o'r bron.

Ymddangosai pob peth yn addawol i gynnydd cyflym y Diwygiad. Yn awr, mewn gwirionedd, yr oedd y Diwygiad Protestanaidd yn dechreu yn Lloegr. Eithr daeth gwendid i mewn. Nodwedd amlwg pob plaid mewn gwlad ac Eglwys oedd peidio boddloni ar yn unig ennill awdurdod iddynt eu hunain, ond gormesu ar bawb a anghytunent â hwynt. Erlidiai'r Pabydd y Protestant, a'r Protestant y Pabydd; gormesai'r Eglwyswr yr Anghydffurfiwr, a'r Anghydffurfiwr yr Eglwyswr. Cyd-ffurfiaeth â'u daliadau arbennig hwy oedd egwyddor lywodraethol y naill fel y llall.[1] Y Cymro Roger Williams, yng nghoedwigoedd America, oedd Apostol Mawr Rhyddid Cydwybod—ac ni ddechreuodd ei apostolaeth ef am gan mlynedd wedi llosgi Cranmer.[2] Taflwyd Gardiner i'r Twr; cymerwyd ei esgobaeth oddiar Bonner, a rhoddwyd hi i Ridley. Gwaharddwyd i'r Dywysoges Mari, chwaer y brenin, ac aeres yr orsedd, gael crefydda yn ol ei chydwybod ei hun. Felly mewn cyfnod diweddarach y gwnaeth Cromwell hefyd, gan benodi ei ganlynwyr yntau i fywiolaethau Eglwysig a ddelid gan bleidwyr Siarl anffodus.

Andwywyd effaith ddaionus y Ddysgeidiaeth Newydd gan weithredoedd gwleidyddol Somerset. Wedi ennill serch y bobl, lawer o honynt, drwy y diwygiadau a nodwyd, aeth ymhellach. Rhoddodd ganiatad i'r clerigwyr briodi; amlhaodd

  1. ↑ Methai Cranmer, er tynered gwr ydoedd, a goddef i rai a gredent gydag ef ym mhrif egwyddorion Protestaniaeth, i wahaniaethu oddiwrtho ar bynciau llai. Ei hun yn faban-fedyddiwr, gomeddodd i'r Bedyddwyr Crediniol y rhyddid oddiwrth penydiau cyfreithiol a ganiateid i "hereticiaid" eraill.
  2. ↑ "The toleration of heresy was deemed by men of all persuasions to be as unreasonable as it would now be thought to propose the impunity of murder."—(Sir James Mackintosh.)