ym Mrycheiniog. Yn Sir Aberteifi, ar y llaw arall, lle y plannwyd 32, bu 15 byw, gan flaguro ac aros fel cyfundrefnau parhaol, a dadblygu i fod, mewn cyfnod diweddarach, yn Eglwysi gweithgar. Os cymharer y ddwy goeden â'u gilydd, daw'r cyferbyniad rhwng Howell Harris a Thomas Charles yn amlycach na'r un rhwng y blaenaf a Daniel Rowlands. Yr hyn a fu John Wesley i Wesleyaeth, hynny a fu Thomas Charles i Galfiniaeth Drefnyddol Cymru. Petae'r gallu i fod yn Drefnydd, a briodolir yn gamsyniol i Howell Harris, wedi cael ei feddiannu ganddo ef, fel y'i meddiannwyd wedi hynny gan Thomas Charles, buasai Coeden Methodistiaeth Howell Harris yn 1752, ymron mor llewyrchus yr olwg arni ag ydyw un Thomas Charles yn 1820. Mewn geiriau eraill, i ddiffyg y gallu hwnnw yn Howell Harris y rhaid priodoli'r ffaith fod tyfiant Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, wedi cael ei oedi am yn agos i 70 mlynedd! (Gwel yr Atodiad i'r bennod nesaf am fanylion pellach ar hyn.)
Manylais yn y paragraff blaenorol ar y cyferbyniad rhwng natur gwaith Howell Harris a'i gydoeswr Daniel Rowlands, a'i olynydd Thomas Charles, er mwyn egluro y gwahaniaeth rhwng gwaith Whitefield a Wesley. Ond rhaid i'r darllenydd beidio llamu i'r casgliad nad oedd dim o allu'r Trefnydd yn Whitefield, a dim o zel yr Ysgogydd yn Wesley. I'r gwrtbwyneb yn hollol. Ar y cychwyn cyntaf, ymddanghosai'r ddau ymron fel dau efaill, mor debyg i'w gilydd mewn llawer o bethau, fel mai anhawdd weithiau fyddai adnabod y naill oddiwrth y llall. Gwelwyd efeillion felly, y rhai pan yn blant y byddai'n rhaid gwneud gwahaniaeth yn eu gwisg er gallu gwybod prun oedd prun; ond wedi tyfu i fyny, dadblygent nodebau gwedd mor wahanol, nes gwahaniaethu ffurf corff a gwynepryd gymaint fel na cheid trafferth i adnabod y naill oddiwrth y llall. Rhywbeth felly a fu yn hanes Wesley a Whitefield, ac i raddau llai yn hanes Daniel Rowlands a Howell Harris. Am ddeuddeng mlynedd parhaodd y gallu Trefnyddol yn gryf ac amlwg yn Whitefield, er yn gwanhau o flwyddyn i flwyddyn ar ol yr ychydig flynyddoedd cyntaf; ond dal i ddadblygu a chryfhau o hyd a wnai zel yr ysgogydd efengylaidd,—nes, o'r diwedd, iddo daflu gwisg y Trefnydd ymaith yn gyfangwbl, a phenderfynnu cadw am ei draed heb fyth eu diosg, esgidiau paratoad