gynnal ei gyfarfod mawr cyntaf yn Kingswood, yr oedd Wesley wedi cael amlygiadau rhyfedd o ryw allu dyeithr yn gweithio yn ei gynulleidfaoedd yn Llundain. Nid peth anghyffredin y pryd hwnnw oedd fod Cyfeillach grefyddol yn para hyd ddau a thri o'r gloch y boreu; yr oriau yn cael eu treulio mewn mawl, a gweddi, a dyrchafiad ysbryd, a wnai iddynt anghofio anghenion, byd a chnawd,—a herio gallu'r diafol.
Ond nid oedd y dylanwadau yn gyfyngedig i aelodau'r gyfeillach. Ymaflent yn sydyn mewn rhai o'r byd—ac yn amlach yng nghyfarfodydd Wesley nag eiddo Whitefield. Cymerodd y cyntaf o'r amlygiadau dyeithr hyn le mewn cyfarfod yn Llundain dair wythnos cyn i Whitefield bregethu gyda'r fath nerth i'r can glowr yn Kingswood. Tra Wesley yn pregethu tarawyd dynes ganol oed, mewn sefyllfa gymdeithasol barchus, yn sydyn gan ryw ddylanwad a wnaeth iddi lefain allan fel pe yng nghanol pangfeydd marwolaeth. Achosodd gyffro anesgrifadwy ar y pryd, ond daeth yn beth cyffredin wedi hynny. Ymhen dau fis neu dri wedi i'r ddynes hon gael ei meddiannu, tarawyd nifer o bobl yn un o gynulleidfaoedd Wesley mewn modd cyffelyb; gwaeddent allan mewn ing, a syrthient i'r llawr fel pe yn farw. Aeth y son am hyn ar led. Anghredai llawer yn nilysrwydd yr arddangosiadau dyeithr; gwawdiai eraill hwynt. Symbylid y ddau gan gywreinrwydd i ymweled â chyfarfodydd Wesley er gweled y peth—ac yno ymaflid yn yr anghredinwyr a'r gwawdwyr gan yr un dylanwadau. Lledodd y dylanwadau i gylchoedd
Nid yn unig ymeflid mewn personau yn y cyfarfodydd, ond meddiennid hwynt yn llonyddwch a neillduedd eu cartrefi, yn wrth—wynebwyr yn ogystal a chefnogwyr y mudiad diwygiadol. Adroddir am y cyntaf a feddiannwyd felly, gwrthwynebydd adnabyddus i Wesley, ac un a fynnai ddyweyd mai meddiant cythreulig oedd yr amlygiadau hyn, ac nid dylanwad Yspryd Duw. Ond tra yn darllen pregeth yn ei dy gartref, tarawyd yntau i'r llawr, a rhwygwyd ei gorff gan ddirdyniadau.. Gyrrodd ei berthynasau ar ffrwst am Wesley, a chyda'i fod yn croesi trothwy'r drws, llefodd y dyn druan allan:—" Wele'r hwn y dywedais mai twyllwr y bobloedd ydyw,—ond mae'r Arglwydd wedi fy ngorddiwes innau." Tarewid dynion ar yr heol fel yn y capel. Parhaodd y meddiant hynod hwn yn gryf am chwe mis cyntaf y Diwygiad.
Ofer fyddai ceisio esbonio'r ymddadguddiadau hyn. Yr oeddent yn rhy gyffredinol ini allu tybied am foment mai ffugiol oeddent. Ceid hwynt yng Nghymru fel yn Lloegr, yn yr America a'r Ysgotland, ymron ar yr un pryd.