Yng Nghymru, ai am fod natur y Cymro'n fwy llawn o arian byw na'r Sais, ai beth, torrai'r amlygiadau allan mewn dull mwy eithafol fyth, weithiau mewn chwerthin di-lywodraeth, bryd arall, fel y cloff gynt wrth borth y deml, mewn "rhodio, a neidio, a moli Duw;" a phrydiau eraill, drachefn, mewn curo cefnau eu gilydd ar eu gliniau, fel pe yn canmol campwaith. I bobl yr oes yma mae'r peth yn ymddangos yn anhygoel; i'r rhai a welsant Ddiwygiad 1859 mae yn ddealladwy, er yn anesboniadwy.
Wedi i ruthr cyntaf y teimladau dyeithr hyn fyned heibio, trodd meddwl ymarferol Wesley at y gorchwyl o sicrhau ty a chanolfan cyfarfod i'w ganlynwyr. Fel Richard Baxter bedwar ugain mlynedd cyn hynny, er na fynnai ymadael ag Eglwys Loegr, eto, gan na chaffai fynediad i'w phwlpudau, gosododd ei fryd ar adeiladu teml i'r Arglwydd, lle y gallai gyhoeddi'r genadwri a ymddiriedwyd iddo. Ond yn lle adeiladu capel newydd, sicrhaodd Wesley feddiant o hen law-weithdy o eiddo'r Llywodraeth, ac a adnabyddid fel y Foundry.[1] Trodd hwn yn addoldy—ac o hynny allan daeth Foundry Wesley yn ganolbwynt cydnabyddedig Wesleyaeth, fel y daeth Tabernacl Whitefield yn fuan wedyn yn ganolfan awdurdod, trefn, a gweithgarwch Calfiniaeth Ddiwygiadol yr oes.
Nodiadau
- ↑ I'r neb a fynno wybod am y llannerch hanesyddol, dyddorol yw gwybod ei bod heb fod yn nepell o Gapel City Road—maes llafur Eglwysbach. Saif yn Castle Road, a red yn gyfochrog ymron â City Road.