Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/267

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XX.
WHITEFIELD A'R DIWYGIAD YNG NGHYMRU.

Tra roedd y pethau mawr a rhyfedd hyn yn cymeryd lle yn Lloegr, nid oedd Cymru hithau'n ddigyffro. Ond rhaid oedd cymeryd bras olwg ar y gwaith yn Lloegr cyn deall dadblygiadau'r gwaith yng Nghymru.

Fe gofir mai nodwedd fawr y Diwygiad yn Lloegr, oedd y pregethu yn yr awyr agored, a ddechreuwyd o'i anfodd gan Whitefield yn Kingswood, yn Chwefror, 1739. Yn groes i'w ewyllys y boddlonodd Whitefield wneud hynny, ac yn groes i'w ewyllys yntau y cydsyniodd Wesley ag ef, ac y cymerodd ran yn y gwaith ei hunan. Nodwedd arall y mudiad yn Lloegr, a'i gwahaniaethai oddiwrth bob mudiad blaenorol i efengyleiddio'r wlad, oedd y rhan a gymerodd lleygwyr ynddo. I Eglwyswyr, ac aelodau o'r urdd offeiriadol fel Wesley a Whitefield, yr oedd yn anhawddach ganddynt weled gwr heb urddau Eglwysig yn ymgymeryd â'r Alwedigaeth Santaidd, nag oedd ganddynt hyd yn oed bregethu yn yr awyr agored eu hunain. John Cennick oedd y cyntaf a ganiatawyd ganddynt i wneud hyn, a thrwy ei ymroddiad, a'i fedr, a'i lwyddiant, profodd iddynt mai doeth oedd manteisio ar wasanaeth gwr oedd wedi cael ei urddo gan yr Ysbryd Glan, yn hytrach nag un na feddai unrhyw gymhwysder arall nag arddodiad dwylaw esgob. Gwir i Cennick, ymhen blynyddau ar ol hyn, roi cryn drafferth a gofid i Wesley a Whitefield—ond nid am nad oedd yn feddiannol ar urdd Eglwysig. Nodwedd arall a berthynai i'r mudiad yn Lloegr, oedd y Seiadau Crefyddol y soniwyd am danynt eisoes.

O'r tair nodwedd yma, yn yr olaf yn unig y cafodd Lloegr, y flaenoriaeth ar Gymru ynglŷn â'r Diwygiad. Fel y danghoswyd eisoes, yr oedd Seiadau yn