bodoli yn Lloegr cyn i Howell Harris dorri allan fel Efengylydd. Am y ddwy nodwedd arall, yr oedd Cymru ar y blaen, mewn pregethu yn yr awyr agored, ac mewn caniatau i leygwyr wneud hynny. Howell Harris dorrodd yr iä yn yr olaf, er nad yn y blaenaf. Cawn ef ei hun yn rhoddi'r flaenoriaeth yn hyn o beth i Daniel Rowlands ar un achlysur,[1]—er, ar achlysur arall, yn hawlio'r clod iddo ei hun.[1] Ond cawn fanylu ar gysylltiadau personol Howell Harris eto; ar hyn o bryd â gweddau cyffredinol y Diwygiad y mae a fynnom.
Yr oedd hyn o wahaniaeth rhwng y Diwygiad yn Lloegr i'r hyn a'i nodweddai yng Nghymru. Yn Lloegr, Clerigwyr Eglwys Loegr—saith o aelodau Clwb Santaidd Rhydychain (gwel tudal 224) a drefnent, ac a lywient, ac a ysbrydolent y mudiad. Yng Nghymru, er fod a fynnai clerigwyr lawer â'r gwaith; ac er, ymhen amser, ymron o angenrheidrwydd o dan yr amgylchiadau, y syrthiodd llywodraethiad y mudiad yn gyfangwbl i ddwylaw nifer o offeiriaid, eto ar y cychwyn yr oedd cymaint, efallai fwy, a wnelai Ymneillduwyr ag ef na'r Eglwyswyr.
Enwyd eisoes Phylip Pugh ac Enoch Francis, Miles Harry, ac Edmund Jones, ymhlith y gweinidogion Ymneillduol perthynol i'r ddau enwad, a ddangosasant ysbryd Diwygwyr ymhell cyn torri o'r Diwygiad mawr allan. Pan y torrodd allan, cafwyd nifer o weinidogion eraill, yn Fedyddwyr ac Anibynwyr, yn barod iawn i estyn llaw o gymorth er hyrwyddo'r mudiad daionus yn ei flaen. Ymhlith y rhai hynny, a'r rhai a ddaethant wedi hynny i gysylltiad agos a swyddogol a'r gyfundrefn ganoleiddiedig, gellir enwi Lewis Rees, Llanbrynmair; Henry Davies, Blaengwrach; Howell Griffith, Trefeirig; Benjamin Thomas, ac eraill; ac ymhlith hyrwyddwyr y mudiad ar y dechreu, ond a dorasant eu cysylltiad ag ef cyn ei ganoleiddio'n gyfundrefn, gellir enwi David Williams, Watford a Chaerdydd.
Pan ddechreuodd Howell Harris dynnu sylw ac enill enw fel