Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/269

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethwr, tybiodd y gwyr da hyn y gallai eu cynorthwyo hwy yn eu hymdrech i ddeffroi eu cynulleidfaoedd gartref. Ceir Miles Harry,[1] David Williams[2], Howell Griffith,[3] Edmund Jones,[4] Lewis Rees,[5] ac eraill o Arweinwyr Ymneillduaeth oleuedig Cymru, yn rhoi gwahoddiad cynnes i Howell Harris i ymweled â chylchoedd eu gweinidogaeth hwynt; a threfnodd rhai o honynt gylch o gyhoeddiadau i Howell Harris fel Efengylydd.Gwel y llythyrau uchod ac eraill yng Nghasgliad Trefecca. Yr oedd rhai o'r brodyr hyn wedi cyrraedd y fath enwogrwydd fel Diwygwyr, nes y daeth eu clod i glustiau Wesley a Whitefield, a chawn ohebiaeth gyfeillgar a chyson yn pasio rhyngddynt. Manylir eto ar y rhan bersonol a gymerodd Howell Harris yng ngwaith Y Diwygiad yng Nghymru. Ar hyn o bryd dwy ffaith bwysig wyf am argraffu ar feddwl a chof y darllenydd, sef:—

1. Mai Gweinidogion Ymneillduol oedd y cyntaf i'w annog i ddod allan fel Efengylydd cyffredinol, gan drefnu cyhoeddiadau a sicrhau ymlaen llaw dderbyniad cynnes a chroesawus iddo; a

2. Mai anenwadol hollol oedd llafur Howell Harris ar gychwyn ei yrfa fel Efengylwr.

Gwir (a) na pharhaodd yr oll o'r gweinidogion Ymneillduol yn hir iawn yn y cysylltiad cyfeillgar yma â Howell Harris,—a (b) gwir hefyd na pharhaodd ei lafur cyhoeddus yntau yn anenwadol yn hir. Yr oedd cysylltiad rhwng (a) a (b) sy'n rhoi esboniad dealladwy ar waith y naill weinidog Ymneillduol ar ol y llall, yn tynnu yn ol o gysylltiad swyddogol â Howell Harris, ond nid ar hyn o bryd y gellir yn oreu olrhain hanes achos ac effaith yn y cysylltiad hwn. Daw yn amlycach pan adroddir, mewn pennod arall, hanes cysylltiadau personol Howell Harris a'r naill a'r llall o'r personau a'r enwadau hyn.

Mynegwyd yn y bennod flaenorol am ymweliad cyntaf George Whitefield â'r Dywysogaeth. Yn niwedd 1738, ysgrifennodd

  1. Casgliad Trefecca, Llythyr 48, Meh. 23, 1739, &c
  2. Eto, Llythyr 36, Chwef. 7, 1739
  3. Eto, Llythyr 21, Meh. 23, 1738
  4. Eto, Llythyr 25, &c.
  5. Eto, Llythyr 24, Awst 10, 1738