Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cyfleusterau i ddarllen y Beibl; a daeth gweddiau tlysion y Llyfr Gweddi yn eiddo pawb. Ond ymosododd ar weithwyr a chrefftwyr y wlad, trwy ddifodi yr Undebau neu "Guilds" i'r rhai y perthynent. Ei reswm dros hyn oedd fod trysorfeydd yr Undebau Llafur hyn yn cael eu defnyddio i dalu am weddiau dros y meirw—arferiad oedd bellach yn anghyfreithlon. Cododd hyn a phethau cyffelyb y fath wrthwynebiad iddo nes y cwympodd—a'i gwymp a fu fawr. O fod yn Arglwydd Raglaw'r deyrnas ac yn brif noddwr Protestaniaeth, dygwyd ef i'r dienyddle, ac yn 1552 torwyd ei ben. Dywedir fod y werin bobl yn awr ei farwolaeth wedi anghofio pob peth ond ei rinweddau, ac i lawer o honynt ruthro ym mlaen at yr ysgaffald i wlychu eu cadachau yn ei waed er ei gadw yn grair i'w plant.

Ym mhen blwyddyn wedi dienyddiad Somerset, bu farw'r brenin ieuanc, a daeth tro drachefn ar yr olwyn. Gydag esgyniad Mari i'r orsedd daeth y rhai a bleidient Babyddiaeth yn ol i awdurdod. Eithr cyn marw Edward a Somerset yr oedd had da wedi cael ei blannu, yr hwn, yn y dyfodol agos, oedd i ddwyn ffrwyth ar ei ganfed. Nid yn unig yr oedd y syniadau newydd am grefydd wedi cael eu gwasgaru led-led y wlad, ond yr oedd llawer o arian gwaddol yr hen Fynachdai wedi cael ei ddefnyddio i sefydlu ysgolion rhagorol. Ac er na fanteisiodd Cymru yn uniongyrchol nemawr ar y naill na'r llall o'r bendithion hyn, yr oedd dydd ei gobaith hithau ar wawrio.

Gyda'i holl ddiffygion yr oedd Mari yn berffaith onest. Yr oedd ei thad o'i blaen a'i chwaer ar ei hol, tra yn cymeryd arnynt fod yn Brotestaniaid, mewn gwirionedd yn Babyddol o ran eu golygiadau. Nid cynt y daeth Mari i'r orsedd nag yr adsefydlwyd awdurdod y Babaeth. Yn nyddiau ei thad, wedi ymwrthod o hono ag awdurdod y Pab, ac wedi i Paul III. mewn canlyniad esgymuno Harri a chyhoeddi nad oedd mwyach yn frenin, ceisiodd Cardinal Pole—yntau o linach brenhinol Lloegr—gael gan alluoedd Ewrop ymosod ar Loegr. Dyma'r gwr a ddanfonwyd yn awr i gynrychioli'r Pab yn y