o Lundain at Howell Harris, ac yn nechreu 1739 cafodd atebiad. Dyma ddywed y Sais wrth y Cymro:—
"Er fy mod yn anadnabyddus i chwi o ran fy mherson, yr wyf er's hir amser wedi bod yn un â chwi o ran fy ysbryd, ac wedi llawenhau i glywed fod yr Arglwydd yn eich llwyddo. Ewch ymlaen, fy mrawd anwyl, byddwch gadarn yn yr Arglwydd, ac yn nerth ei allu Ef. Mae, a bydd llawer o wrthwynebwyr; eithr nac ofnwch. Bydd i'r Hwn a'ch danfonodd eich cynorthwyo, eich cysuro, a'ch amddiffyn, a'ch gwneud yn fwy na choncwerwr drwy ei fawr gariad. Yr wyf fi yn dyst byw o hyn, canys aml y perffeithiwyd ei nerth Ef yn fy ngwendid i."
Cynhwysa atebiad Harris a ganlyn:—
"Pan glywais gyntaf am eich llafur a'ch llwyddiant, unwyd fy enaid i â'ch eiddo chwi, a chyfeiriais ddeisyfiadau i'r nef ar eich rhan. . Mae genyf newyddion da i'w rhoi i chwi o Gymru. Mae diwygiad mawr yn Sir Aberteifi drwy Mr. Daniel Rowland, offeiriad, llafur yr hwn a fendithiwyd yn fawr hefyd yn Sir Gaerfyrddin. Mae ein rhagolygon yn Sir Frycheiniog a Mynwy hefyd yn felus. Llwydda'r Diwygiad hefyd yn y Sir hon (Morgannwg). Mae yma weinidog Ymneillduol ieuanc defnyddiol iawn, yr hwn sydd wr o garedigrwydd mawr.[1] Mae un arall o'r un nodwedd yn Sir Drefaldwyn.[2] "
Gwelir fod Harris y pryd hwn yn ddigon diragfarn i gydnabod gwaith a gwasanaeth llafurwyr eraill yng ngwinllan ei Arglwydd heblaw efe ei hun.
O Bryste croesodd Whitefield i Gaerdydd, ym mis Mawrth, 1739. Pregethodd yn y Town Hall, i gynulleidfa liosog a pharchus, ac ymhlith ei wrandawyr yr oedd dau weinidog Ymneillduol,—o bosibl, David Williams, Watford, ac Edmund Jones, Pontypool. Yno, hefyd, y cyfarfyddodd am y tro cyntaf erioed â Howell Harris, yr hwn oedd i chwareu rhan mor bwysig ym mywyd a mudiadau cyhoeddus Whitefield o hynny allan.
Yr oedd tueddfryd y Trefnydd yn gryf yn Whitefield yn y cyfnod hwn, ac un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd ymgynghori â Howell Harris am gyflwr y Seiadau, ac ystyried pa fodd y gellid yn oreu eu gwneud yn fwy defnyddiol, a gwasanaethgar i amcanion y Diwygiad, nag oeddynt. Dyna ddechreu cysylltiad Whitefield â'r diwygiad yng Nghymru.
Dylanwadodd yr ymddiddan hanesyddol hwnnw lawer ar gwrs bywyd dyfodol y ddeuddyn. Gyda'i dueddfryd naturiol