i gymeryd pob dyn ar goel, ni welai Whitefield yn Harris ddim ond yr Efengylydd ieuanc, ymroddgar, dewr, wedi ymgyflwyno fel yntau o lwyrfryd calon i wasanaeth y Meistr. Ac i wneud cyfiawnder â Harris, hyn oedd, yr adeg yma, y dylanwad cryfaf a'r nodwedd amlycaf yn ei fywyd. Petae wedi aros am y deuddeng mlynedd canlynol yng nghymdeithas ac o dan ddylanwad uniongyrchol natur ddyrchafedig fel eiddo Whitefield, buasai holl gwrs ei fywyd, a holl hanes dilynol y Diwygiad, a Methodistiaeth yng Nghymru, yn wahanol i'r hyn a fuont.
Ond yn anffodus i Harris, dysbeidiol (inter-mittent) oedd dylanwad Whitefield a Wesley arno. A phan beidiai'r dylanwad hwnnw, caffai tueddiadau llai teilwng ei natur afael ynddo, gyda chanlyniadau alaethus.
Ond ar y pryd y soniwn am dano nid oedd dim o hynny wedi dod i'r golwg, er y gall y craff a ddilyno'n fanwl Ddyddiadwr Howell Harris, hyd yn oed yn y blynyddau cyntaf hynny, weld arwyddion presenoldeb y clefyd a andwyodd wedi hynny lawer ar ei ddefnyddioldeb a'i wasanaethgarwch. Ond yn yr ymddiddan hwn daeth Whitefield a Harris i ddeall eu gilydd, a chyd-drefnasant ryfelgyrch cenhadol yng Nghymru.
Dychwelodd Whitefield y pryd hwnnw i Loegr; ond ymhen mis daeth yn ei ol i Gymru, a phan ddaeth y pryd hwnnw, teithiodd mewn rhwysg ac urddas allanol a adawodd argraff ddofn ar feddyliau'r bobl syml i'r rhai y dygodd ei genadwri. Sir Fynwy a ddewiswyd fel maes yr ymweliad hwn. Ym Mrynbiga y dechreuwyd y rhyfelgyrch, ac yno yr oedd Harris yn ei gyfarfod. Yno hefyd y cafwyd yr atalfa gyntaf—ac yn wir yr unig un—i'r ymgyrch. Gwrthodwyd caniatau i Whitefield bregethu yn Eglwys y Plwyf. Ond os na chai bwlpud, gallai wneud hyn. Benthyciwyd bwrdd cadarn, yr hwn a osodwyd o dan goeden gauadfrig—fel yr arferai Ymneillduwyr Cymru'r oes honno wneud â'u pwlpudau symudol—ac oddiar ben hwnnw y traethodd Whitefield ei genadwri nefol.
Wedi'r oedfa ym Mrynbiga, ffurfiwyd gosgorddlu anrhydedd iddo, a chyda o hanner cant i dri ugain neu dri ugain a deg, o