pryd dan bwys o ofidiau personol. Ymhlith pethau eraill, yr oedd yr Ysgotiaid Presbyteraidd wedi dechreu ei erlid. Aethant mor bell a chyhoeddi dydd o ympryd a gweddi o'i achos ef, gan ddweyd mai twyll oedd ei waith, ac mai trwy offerynoliaeth y diafol y'i cyflawnai.[1] Ac eto, ynghanol ei ofidiau ei hun, cafodd hamdden i dalu sylw i anghenion Cymru. Dyma fel yr ysgrifenna at Harris:—
"Mae yr hyn a ddywedwch am Gymru druan wedi'm cyffroi. Gor—weddais ar fy ngwyneb heddyw, ac am beth amser deisyfais gydag ocheneidiau anrhaethadwy, am gyfarwyddyd yn hyn a materion tra phwysig ereill." [1]
Ymhen wythnos wedyn yr oedd yn ol yn Llundain; y cymylau wedi gwasgaru, a gwynepryd Duw yn llewyrchu arno. Yr oedd wedi cael gweledigaeth eglur pa beth oedd raid ei wneuthur yng Nghymru. Yr oedd yr ocheneidiau anrhaethadwy wedi enill gwrandawiad ac atebiad. Dyma yr hyn a ysgrifenna yn awr at Harris:—
"Mae achos Cymru ar fy nghalon. Bwriadaf gyfarfod â'r brodyr i gyd yno gyda'u gilydd. Gan fod y deffroad yn ymddangos fel i raddau wedi myned heibio, a bod cynifer o feini bywiol, mae yn bryd meddwl am eu rhoi ynghyd. Bydded i Adeiladydd mawr yr Eglwys ein harwain a'n cyfarwyddo. Yr ydym yn cael dyddiau hyfryd yma. Mae'r bobl a minnau wedi bod ym maesdrefi'r nef! Bendigedig fyddo Duw. Preswyliaf yn y nefoedd bob dydd."[2]
Nid hir y bu Whitefield yn awr cyn trefnu cynnal y Gymdeithasfa Gyffredinol gyntaf a gynhaliwyd erioed yng Nghymru. Yr oedd rhai o arweinwyr y mudiad wedi arfer cyfarfod a'u gilydd yn achlysurol cyn hyn, er ymgynghori a'u gilydd, ond nid oedd unrhyw ymgais wedi cael ei wneud i'w cysylltu yn gyfundrefnol a'u gilydd. Hyn a amcanai Whitefield yn awr ei wneud.
Yn Watford y cynhaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf hon. Yr oedd yno gapel Anibynnol, yng ngweinidogaeth David Williams, Pwllypant, yn agos i filltir o Gaerffili. Yr oedd y David Williams hwn, fel y cofir, yn un o'r gweinidogion