deyrnas hon. Yn 1554 aeth y Senedd, yn Arglwyddi ac yn Gyffredinwyr, mewn gorymdaith i balas Whitehall; ac yno penliniasant o flaen y Cardinal fel cynrychiolydd y Pab, gan ddeisyf maddeuant ei Sancteiddrwydd am eu pechodau hwy a heresi'r deyrnas. Cyhoeddodd y Cardinal faddeuant rhad iddynt ar sail eu hedifeirwch. Dangosasant hwythau eu diolch drwy basio cyfraith yn dileu yr holl ddeddfau yn erbyn y Babaeth a basiwyd gan Harri ac Edward, ac yn adsefydlu Pabyddiaeth fel crefydd y Wladwriaeth. Ond yr oedd eu cydwybod grefyddol yn ystwythach na'u cydwybod fasnachol. Un peth oedd cydnabod awdurdod y Pab mewn pethau a berthynent i grefydd; peth arall oedd rhoddi i fyny yr eiddo oedd Harri wedi gymeryd oddiar yr Eglwys Babaidd. Yr oedd llawer o'r eiddo hwnnw, yn dai ac yn diroedd, wedi cael ei roddi gan Harri i'w bendefigion, ac ni fynnent yn awr eu dychwelyd. Dywedodd y Cardinal wrthynt nad oedd yn hawlio dychweliad yr eiddo, ond ei fod yn apelio at eu cydwybod am wneud yr hyn oedd yn iawn. O'r holl bendefigaeth[1] oedd wedi ymostwng mor wasaidd i'r Pab, nid oedd ond y Frenhines Mari yn unig, yn meddu digon o argyhoeddiad cydwybodol i wrandaw ar yr apel. Dychwelodd hi y degymau, y blaenffrwythau, a'r holl eiddo Eglwysig a syrthiasai i'w rhan. Danghosodd y dychweledigion urddasol eraill ddyfnder eu hargyhoeddiadau, a nerth yr egwyddor wirfoddol mewn crefydd a geisiodd Pole blannu yn eu calonnau, drwy gau eu pyrsau a dal gafael yn dynnach nag erioed yn yr eiddo.
Ond os nad oeddent yn ddigon cydwybodol i roddi yn ol i'r Eglwys yr eiddo a gymerwyd oddiarni, yr oeddent yn ddigon selog yn yr adfeddiant o'r hen grefydd i erlid yn greulawn bawb na phlygent lin i'r Pab. Daeth Gardiner allan o'r Twr, a gwnaed ef yn Arglwydd Ganghellydd: cymerodd Bonner feddiant drachefn o'i hen Esgobaeth yn Llundain, gan droi Ridley dros y drws. Yna dechreuodd cyfnod o erlid na welwyd
- ↑ Yr oedd 40,000 o wahanol bersonau ar y pryd yn dal y tiroedd Eglwysig a gymerwyd oddiar y Babaeth gan Harri.