hynny. Wele enwau'r saith:—George Whitefield, Daniel Rowlands, John Powell (ciwrad Aberystruth), William Williams, Pantycelyn, Howell Harris, John Cennick, a Joseph Humphreys. Os dadansoddwn y rhestr, cawn y ffeithiau dyddorol canlynol am gyfansoddiad y Gymdeithasfa "Fethodistaidd " gyntaf hon:—
1. Yr oedd tri Sais a phedwar Cymro ynddi.
2. Yr oedd pedwar offeiriad a thri lleygwr ynddi.
3. Yr oedd y tri lleygwr hyn wedi ffurfio cylchoedd diwygiadol iddynt eu hunain.
4. Yr oedd un (Cennick) yn fab i Grynwr—trodd wedyn at y Morafiaid.
5. Yr oedd un arall (Humphreys) yn fab i weinidog Anibynnol.
6. Yr oedd un arall (Williams, Pantycelyn) yn fab i ddiacon gyda'r Anibynwyr.
7. Yr oedd pedwar o'r saith yn swyddogion cydnabyddedig o gyfundrefnaeth y Tabernacl yn Llundain, ac un arall yn gwasanaethu yn achlysurol o dan yr un gyfundraeth.
Heb fynd i fanylu llawer ar y gweithrediadau, digon yw dweyd ar hyn o bryd fod Whitefield wedi cael ei ethol yn Llywydd am y tro, a bod y gynhadledd wedi mabwysiadu y rhan. fwyaf o awgrymiadau Whitefield yn ei lythyr at y frawdoliaeth (gwel tudal 260). Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd misol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Yn un o'r cyfryw a gynhaliwyd yn Glanrafon ddu, Sir Gaerfyrddin, Dydd Gwyl Dewi, penderfynnwyd cymeradwyo i'r Gymdeithasfa y pethau canlynol:—
1. Fod Cymdeithasfa Gyffredinol o weinidogion a chynghorwyr Lloegr a Chymru i gyfarfod bob hanner blwyddyn.
2. Fod y brodyr Seisnig i gyfarfod unwaith ar wahan, a'r brodyr Cymreig unwaith ar wahan, rhwng pob Cymdeithasfa Gyffredinol.
3. Fod y ddwy adran i ohebu yn gyson a'u gilydd.
Golygai hyn o angenrheidrwydd undeb peiriannol (organic union) rhwng "Methodistiaeth" Cymru ac eiddo Lloegr. O'r dydd hwnnw allan cawn y Diwygwyr Cymreig yn danfon eu hadroddiadau yn gyson i Whitefield. Un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf oll i wneud hynny oedd Daniel Rowlands.. Ymhen wythnos wedyn, gwnai Howell Harris yr un peth. Dilynwyd eu hesiampl gan eraill. Ar ran y Seiadau gwledig, yn arbennig rhai Sir Aberteifi, deisyfir ar Whitefield i gyd-ddioddef a'u gwendidau. Medd yr adroddiad:
"Maent yn wasgaredig ar hyd a lled y wlad, a chan eu bod yn wir dlodion, nis gallant ddod i fyny â'r drefn a'r cynllun manwl sydd gennych