Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/283

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwi yn Llundain. Gwelir yn feunyddiol fod yr hyn sydd yn iawn ac yn adeiladol mewn unlle, a chyda rhai pobl, yn anymarferol ymhlith eraill. Gadawn i'r Brawd Rowlands drefnu ac uno y bobl mewn dosbarthiadau (bands) cyfrinachiol, a chanfyddir effeithiau daionus hynny. Mae wedi darparu rhai eneidiau godidog i'w cynghori a'u bugeilio."

A'r un adroddiad ymlaen i ddweyd fod wyth o siroedd Cymru yn agored i Whitefield, ac yn sychedu am ei glywed, ac y byddai "llawer o Eglwysi, heblaw'r Capeli," yn agored iddo. A'i ddisgwyliadau wedi cael eu codi yn uchel gan y rhagolygon hyn, a'i galon a'i holl natur ar dân gan zel at y gwaith, daeth Whitefield i lawr i Gymru i gynnal yr ail Gymdeithasfa Chwarterol. Dyma hanes un diwrnod o waith ar y ffordd yno:

I'r gwely un o'r gloch y boreu, Codi am bump. Marchogaeth i'r cyfarfod erbyn saith. Pregethu. Cynorthwyo i weinyddu'r cymun. Marchogaeth i Stroud. Pregethu yno i gynulleidfa o 12000. Am 6 yn yr hwyr pregethu mewn lle arall i gynulleidfa gyffelyb. Yna i gariad-wledd y Seiadau. I'r gwely ganol nos.

Cyrhaeddodd Watford, Mawrth y Pasg, 1743, lle y croesawid ef gan deulu Price, a chan y brodyr oedd eisoes wedi ymgynnull i'w gyfarfod. Ganol dydd trannoeth pregethodd bregeth agoriadol y Gymdeithasfa. Yna trowyd eu sylw at waith y Gymdeithasfa. Parhaodd yr eisteddiad cyntaf hyd saith o'r gloch yr hwyr; dechreuwyd yr ail eisteddiad am ddeg o'r gloch y nos, a pharhawyd hyd ddau o'r gloch y boreu. Trannoeth cafwyd eisteddiad arall, yn para hyd bedwar o'r gloch prydnawn. Ar ol cael pryd o fwyd, traddododd Whitefield bregeth; ac yna ail ymaflwyd yn y gwaith o drefnu, a pharhawyd wrtho tan ganol nos. Yn y cyfarfodydd hyn gorffennwyd holl waith angenrheidiol y trefnu, ar y llinellau a nodwyd eisoes yn llythyr Whitefield.

Penodwyd Whitefield yn Llywydd Parhaol y Cymdeithasfa "bob amser tra byddwyf yn Lloegr," eb efe yn ei lythyr at ei gyfaill John Syms. Yr oedd Howell Harris i fod yn ddirprwy-lywydd, i gymeryd lle Whitefield pan nas gallai ef fod yn bresenol. I wneud y cysylltiad â Lloegr yn amlycach, trefnwyd fod Harris i fod at alwad Whitefield i fynd i Loegr i'w gynorthwyo pan fyddai angen; fod Herbert Jenkins i fod yn gynorthwywr i Howell Harris, "ac hefyd i'r brodyr Seisnig." Yr oedd Thomas Lewis (brawd argraffydd y Weekly History) hefyd i gynorthwyo'r brodyr Seisnig pan elwid arno. Penderfynwyd ymhellach "Fod yr arolygwyr i ddanfon adroddiad am waith Duw yn eu meusydd neillduol, i Lundain, i fod yno ddiwedd pob mis, ac i gyfeirio eu llythyrau at weinidog y Tabernacl (Whitefield) i ofal Mr. John Syms."