yn dymuno fy newisiad fy hun. Ti a wyddost fy amgylchiadau, ac mae ynot ac errot Ti y dymunaf briodi. Dewisaist Rebecca i Isaac. Dewis ymgeledd gymhwys i minnau, i'm cynorthwyo i gario ymlaen y gwaith mawr a ymddiriedaist imi."
Atebwyd ei weddi. Ymhen blwyddyn yr oedd wedi priodi. Profodd hi yn bopeth a ddeisyfodd. Marchogodd ef dri chan milltir er mwyn cyfarfod â'i wraig—ac ymhen wythnos ar ol priodi, gadawodd hi i fynd at ei hoff waith o efengylu. O'r Watford, cartref y Cymro cynnes galon Thomas Price, y "cododd allan" i'w briodi yn Eglwys y Plwyf, Eglwysilan. Ni cheir ond y cyfeiriad byrraf ac anamlaf yn ei ysgrifeniadau at y digwyddiad; dim am y garwriaeth; prin hanner dwsin o eiriau am y briodas ei hun. "Gwahoddwyd Crist i'n priodas," meddai, "a daeth yno." Ychydig iawn a ddywed am ei wraig. Yn hyn oll mae'n wahanol iawn i Howell Harris, yr hwn a ddyry i ni holl hanes ei garwriaeth yn fanwl. Dichon mai am ei fod yn son cyn lleied am dani, mae'r argraff wedi mynd ar led fod y briodas wedi troi allan yn un anhapus.[1] Eithr nid yn unig ni cheir dim profion i gadarnhau hyn, ond i'r gwrthwyneb cawn liaws o brofion ei bod hi wedi bod yn ymgeledd gymhwys iddo. Bodolai cydgordiad perffaith rhyngddynt cyn ac ar ol priodi ar gwestiwn pwysig gwaith mawr bywyd Whitefield. Ffafrai hi ei genhadaeth cyn priodi; cynorthwyai ef yn ei genhadaeth ar ol priodi. Aeth gydag ef i'r America. Ar y ffordd yno, bygythid hwynt gan long arfog, ac aeth Mrs. Whitefield at y gwaith o doddi plwm a'i wneud yn fwledi.[2] Wedi cyrraedd America, teithiodd 400 milltir gyda'i phriod drwy goedwigoedd ac anialwch er mwyn gweini arno. Pryderai bob amser yn ei gylch rhag iddo orweithio ei hun. Mae'r llythyrau a ysgrifenodd hi o'r America at ei chyfeillion yng Nghymru, yn rhai nodedig o dyner, ac yn arddangos calon y wraig bryderus ac ysbryd dyrchafedig y Cristion ffyddlon. Dywed cylchgronau'r cyfnod
[3] ei bod yn ddynes gyfoethog