Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/286

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iawn, gyda ffortiwn o £10,000. Ond dywed Whitefield ei hun yn ei lythyrau, nad oedd hi nac yn hardd o ran ei gwynepryd, nac yn gyfoethog mewn eiddo bydol. Gan nad beth am hynny, bu yn ymgeledd gymhwys iddo. Mor awyddus ydoedd hi i fod gydag ef, fel y gorfu ei chloi yn ei hystafell pan newydd roi genedigaeth i'w baban cyntafanedig, rhag rhuthro ohoni allan ar ei ol i'r capel. Bedyddiodd Whitefield y plentyn ei hun yn y Tabernacl, yngwydd cynulleidfa o filoedd—ac ergyd trwm i galon a gobeithion y tad a'r fam oedd marwolaeth buan y bychan. Cafodd Whitefield ras mwy nag eiddo Aaron. Nid tewi a wnaeth, eithr, eb efe:—

"Galwais bawb i mewn i uno â mi mewn gweddi, yn yr hwn y bendithiais Dad y trugareddau am roddi mab i mi, am ganiatau i mi ei gadw cyhyd, ac am ei gymeryd oddiwrthyf mor fuan. Cymhellodd pawb fi i roi heibio pregethu tan ar ol claddu'r plentyn. Ond cofiais eiriau Matthew Henry, na raid i wylo rwystro hau. Felly pregethais ddwy waith drannoeth, a'r dydd canlynol, a phan oeddwn yn gorffen pregethu, dyma gnul cyntaf y gloch yn swnio yn angladd fy mhlentyn. Gan edrych i fyny, cefais nerth i ddyweyd fod fy nhestyn, Mae popeth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw,' yn fy ngwneud mor foddlon i fynd allan i'w gladdu, ag oeddwn i glywed am ei enedigaeth."[1]

Dyna engraifft o ymostyngiad Cristionogol na welir ond yn anaml iawn ei gyffelyb. Danghosodd Whitefield yr un ysbryd ynglŷn â'r gwaith yng Nghymru. Pan briododd, methodd aros wythnos gyfan gyda'i wraig heb fynd allan i bregethu; pan fu farw ei blentyn, methodd aros am ddiwrnod heb fynd ymlaen â'i waith fel efengylydd; eithr pan gymerodd Y Gymdeithasfa yng Nghymru i'w ofal, arhosodd flwyddyn gyfan yn y wlad hon, er ei fod wedi arfaethu mynd i America. Aeth yno yn 1744, a phan ddychwelodd cafodd fod pethau yn ei absenoldeb wedi syrthio i gryn anrhefn. Nid cynt y llwyddodd i osod pethau yn eu lle yn Llundain, nag y brysiodd i lawr i Gymru i Gymdeithasfa Watford, yn haf 1748. Daeth yma drachefn y flwyddyn ganlynol, pan gafodd Edmund Jones mewn angen. Yr oedd "Yr Hen Broffwyd" wedi gorfod gwerthu ei lyfrau, er mwyn talu rhan o ddyled ei gapel.2[2]

  1. Llythyr Whitefield, Gloucester, Chwef. 9, 1744.
  2. Llythyr Whitefield, Abergafenni, Mai, 1749.