Llwyddodd Whitefield gael gan ychydig gyfeillion yn Llundain. i estyn llaw o gymorth i'r hen was da a ffyddlon hwn yn ei gyfyngder.
Erbyn hyn yr oedd gwres cyntaf y Diwygiad wedi oeri, a theimladau anymunol wedi dod i mewn. Ond treuliodd Whitefield fis yng Nghymru tebyg i'r un a dreuliodd yma chwe mlynedd cyn hynny. Teithiodd y wlad, gan ail gynneu'r tân drwy holl siroedd y deheudir. O fewn y mis hwnnw teithiodd 800 milltir, a phregethodd i dros 100,000 o bobl wahanol, gan ymweled âg wyth o siroedd Cymru.[1] Am y rhan a gymerodd ym mudiad Iarlles Huntingdon, a'i Choleg yn Nhrefecca, ymdrinir eto. Ar ol hyn ni chafodd ymweliad nerthol yng Nghymru tan y flwyddyn 1766. Y flwyddyn honno a'r ganlynol, cynheuwyd y tân drachefn yn y Dywysogaeth; a Whitefield a Howell Davies oedd y prif gyfryngau. "Mae fel yr hen amser gynt wedi dod nol!" ebe Whitefield. Gwisgodd y daith hon lawer o wedd ymweliad ymadawol. Fflach olaf y gannwyll cyn mynd allan, ydoedd yr ymdrech hwn i Howell Davies a George Whitefield. Yn un o'r pregethau olaf a draddododd Whitefield, yn Haverfordwest, anogodd y bobl i "fynd i unrhyw le o addoliad lle y pregethir Crist, a Christ yn unig." Ymhen ychydig gyda dwy flynedd ar ol hyn, bu farw'r ddau, Howell Davies a George Whitefield, y Cymro a'r Sais ymroddgar, ac wrth bob un o'r ddau dywedodd eu Harglwydd, "Da was da a ffyddlon—dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd!"
Nodiadau
[golygu]- ↑ Llythyr Whitefield, Bristol, Meh. 24, 1749.