ddau gyfarfodydd iddo, yn eu tai neu'r capel agosaf.[1] Parhaodd y teimlad gwrthwynebol hwn at Wesleyaeth yn gryf mewn rhanau o Gymru tan ddechreu'r 19fed ganrif. Yn Llanfyllin yn 1801 gwrthodwyd benthyca capeli'r Anibynwyr a'r Methodistiaid i gynal cyfarfodydd Wesleyaidd,[2] ac ymhen ychydig wedyn ymosododd Christmas Evans yn ffyrnig ar y Wesleyaid yn Sir Fon, gan eu galw yn "gau broffwydi," "bleiddiaid mewn crwyn defaid," &c.[3] Ond hyd yn oed y pryd hwnnw cafwyd eithriadau mor anrhydeddus ag oedd Thomas Price a William Prichard. Y tro hwn y Parch. Jenkin Lewis, gweinidog oedrannus yr Anibynwyr yn Llanfyllin, a gyfryngodd i sicrhau gwrandawiad i'r pregethwr Wesley."[3]
Adroddir stori ddyddorol am y digwyddiad hwn. John Bryan oedd y pregethwr Wesley. Rai blynyddau cyn hynny yr oedd y mob wedi ymosod ar Mr. Jenkin Lewis; wedi ei lusgo gerfydd ei wallt ar hyd yr ystrydoedd, ac un adyn â mask ar ei wyneb wedi plycio dyrneidiau o wallt o ben y pregethwr, gan adael creithiau ar ei gorryn moel, a arosasant yno hyd ei fedd. Safai'r hen wr yn awr yn ymyl John Bryan pan oedd hwnnw'n pregethu. Gosododd Bryan ei law ar ben moel yr hen weinidog, ac, ebe fe mewn llais gofidus, "Y llaw hon osododd y mask ar wyneb y dyn a achosodd y creithiau hyn ar ben gwas yr Arglwydd!" "Ie!" llefai llais cythryblus o'r dorf, "a myfi yw'r gwr a wnaeth y drwg! O Dduw maddeu i mi! A thorrodd yr holl dorf allan i wylo mewn cydymdeimlad â'r tri oedd wedi cydgyfarfod mor rhyfedd.
Talodd Wesley ei ymweliad cyntaf â Chymru ymhen ychydig fisoedd ar ol i George Whitefield ddod trosodd. O Bryste y daeth yntau, fel ei gyfaill, drosodd i'n cynorthwyo. Mae llawer o debygrwydd yn ymweliad cyntaf Wesley â Chymru i eiddo Whitefield. Taith genhadol yn unig ydoedd, heb un bwriad y pryd hwnnw i sefydlu cyfundrefnaeth o seiadau nag arall, dim ond deffroi y bobl o'u cysgadrwydd ysbrydol. Yn eu teithiau dilynol, gwahaniaethent i gryn raddau. Ni anghofid, ac ni orchuddid, yr amcan cenhadol mae'n wir; caffai hwnnw gan Wesley a Whitefield y lle blaenaf o hyd: ond ychwanegai'r ddau at hynny gyfundrefnaeth reolaidd. Ond gwahaniaethent yn eu dull o gario allan waith y trefnu. Gadawai Whitefield i