Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/298

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i frodyr. Amlygodd hwn ei hun yn dra boreu yn hanes eu cydweithrediad. Nis gellir llai nag edmygu yr addfwynder ysbryd a'r tynerwch a amlygwyd gan Wesley ar yr achlysuron hyn. Un tro, yn Kingswood,[1] yr oedd newydd fynd i orffwys ar ol diwrnod o lafur a lludded, pan ddygwyd cenadwri ato fod Howell Harris yn Bryste, ar ei ffordd o Lundain i Gymru am ei weled. Cododd, ac aeth yno, lle y cafodd Harris, a Humphreys, a brawd arall. "Syrthiasant," ebe Wesley yn ei ddyddlyfr," yn uniongyrchol ar eu hoff bwnc (y ddadl dduwinyddol); ac ar ol ini ddadleu am ddwy awr, gan gael ein hunain yn ddim pellach ymlaen nag ar y cychwyn, deisyfais arnynt ini gael troi o ddadleu at weddïo. Gwnaethom hynny, ac yna ymadawsom â'n gilydd mewn cariad oddeutu dau o'r gloch y boreu."

Yr oedd Wesley y pryd hwn ar dalu ymweliad arall â Chymru. Ar y daith hon Daniel Rowlands oedd ei gydymaith, a chynhesodd calonnau'r ddau efengylydd yn fuan at eu gilydd. Pregethai'r naill yn Saesneg a'r llall yn Gymraeg. Ymhen deuddydd daeth Harris atynt. "Ni [2]. Ond erbyn cyrraedd o honynt Llansantffraid ar y Morfa, daeth yr hen helynt yn ol. Yno cyfarfyddasant â Humphreys a Bissicks. "Oddeutu unarddeg," ebe Wesley, "ymneillduodd ychydig o honom er mwyn annog ein gilydd i gariad a gweithredoedd da." Ond ni chafwyd y gyfeillach grefyddol a ddymunai Wesley, canys ail agorwyd y ddadl, er poen i Rowlands a Wesley. Ceisiodd Harris a Rowlands ar y cyntaf rwystro dadleu; pan welodd nad oedd ei ymgais yn tycio dim ymneillduodd Rowlands. Deffrodd y dadleuydd yn Harris, a thaflodd ei hun i'r frwydr. Ymneillduodd Wesley am un o'r gloch y boreu; parhaodd Harris a'r lleill i ddadleu tan dri. Boreu trannoeth, pan aeth Wesley allan i dŷ cymydog, cafodd Harris a Bissicks wrthi yn dadleu mor gyndyn ag erioed. Pan aeth Wesley i fewn i'r ystafell, taflwyd y dadleuwyr i ddyryswch. Ymddengys fod ei gymeriad ef wedi bod yn rhan o bwnc y ddadl. Digwyddai Mrs. James wedi hynny Mrs. Whitefield—fod yn bresennol, a chan iddi glywed yr ensyniadau a wnaed yn erbyn Wesley yn ei gefn, gorfodai yr athrodwyr i'w dweyd yn awr yn ei wyneb. Cloff iawn oedd yr eglurhad a geisiwyd ei roddi; ond derbyniodd Wesley hwynt yn ysbryd yr efengyl. Penderfynnwyd ar y pryd "i adael dadleu heibio, gan foddloni ar bregethu Crist a hwnnw wedi ei groeshoelio."[3]

Yn yr ysbryd addfwyn hwn yr ymddygodd Wesley at ei frodyr yng Nghymru fwy nag unwaith. Danghosodd ei frawd, Charles Wesley, gyffelyb ysbryd ar aml i achlysur.

Yr oedd Wesley wedi sefydlu Seiad yng Nghaerdydd yn 1739. Pregethai Howell Harris i'r Seiad hon, fel ag a wnai cyn ac ar ol hynny, i Seiad David Williams yn yr un lle.[4] Oherwydd fod Harris yn gwthio ei syniadau Calfinaidd ar y brodyr, cododd ymryson yn eu plith. Brysiodd Charles Wesley atynt, a chan deimlo fwy o zel dros heddwch y Seiad a llwyddiant yr achos, na thros ddadleu daliadau Howell Harris, treuliodd y rhan fwyaf o ddau ddiwrnod i ymweled yn bersonol â'r aelodau oeddent wedi digio wrth Harris. Llwyddodd i'w cael yn ol at eu gwaith; a hwyr yr ail ddydd, ar ol pregethu, galwodd ar y frawdoliaeth i uno âg ef mewn gweddi ar ran a thros lwyddiant gwaith Howell Harris fel efengylwr.[5]

  1. Wesley's Journals, vol. ii., p. 112.
  2. Eto, ii., p. 114.
  3. Eto, vol. ii., p. 114.
  4. Gwel tud. 264
  5. Charles Wesley's Journals.