Dro arall, pan oedd pethau wedi myned yn waeth rhwng y ddau Wesley a Howell Harris, digwyddodd yr olaf fyned i Lanfair Muallt gyda'r bwriad o bregethu. Yr oedd Llanfair Muallt yn hoff gyrchle y ddau Wesley. Ymwelent yn aml â'r lle. Yr oedd Mr. Phillips, offeiriad Maesynys, yn ymyl, yn gyfaill personol iddynt, a threfnai gyfarfodydd yn aml iddynt. Caent yn y dref wrandawiad parchus ac astud, gwreng a bonheddig yn cyrchu i'w gwrando.[1] Yr oedd cysylltiad arall rhyngddynt â'r ardal, gan fod Charles Wesley wedi syrthio mewn cariad â Sarah Gwynne, o'r Garth, ychydig filltiroedd oddiyno, â'r hon y priododd drwy gydsyniad ei theulu. (Gellir nodi rhwng cromfachau mai Cymruesau oedd gwragedd y tri efengylydd, Whitefield, Charles Wesley, a Howell Harris.) Pan gyrhaeddodd Harris i Lanfair Muallt y tro hwn, cafodd fod Charles Wesley wedi ei gyhoeddi i bregethu. Ffromodd yntau yn aruthr; a phan ddaeth Charles Wesley ato i drefnu am gael un oedfa, derbyniodd ef yn swrth, gan ddweyd wrtho y rhaid iddo (Wesley) bregethu yn fyr, gan fod Seiad Gyfrinachol i fod ar ol. Rhoddodd Charles iddo yr ateb arafaidd a ddetry lid,—a phregethodd y ddau.[2]
Tra yn dangos ysbryd mor addfwyn a Christionogol, nid rhyfedd fod y ddau Wesley wedi ennill eu ffordd i galonnau cynnes y Cymry. Cawn y ddau yn aml yn cyd-deithio a chyd-bregethu ag aml un o'r Diwygwyr Cymreig—Daniel Rowlands, Williams Pantycelyn, Howell Harris, Peter Williams, ac eraill. Yn wir, ar adeg diweddarach na'r un yr ymdrinir ag ef ar hyn o bryd, un o'r cyhuddiadau a ddygid yn erbyn Peter Williams oedd ei fod wedi llyncu syniadau John Wesley. Mae'n dra thebyg fod Peter Williams wedi ymgynghori â Wesley pan yn paratoi ei argraffiad cyntaf o'i Feibl Mawr. O leiaf treuliodd Wesley ran o'i amser y pryd hwnnw yng Nghaerfyrddin, gan bregethu yng nghapel Peter Williams. Gwir iddo ar yr un daith ddangos fawrfrydigrwydd ei ysbryd drwy bregethu hefyd mewn capeli Anibynnol yn yr un sir. Anghytunai Peter Williams â Wesley mewn athrawiaeth, ond cytunent â'u gilydd i gyd-efengylu. Yr oedd Daniel Rowlands o gyffelyb ysbryd i'r ddau, a thrwy ei ddylanwad ef, i raddau helaeth, y rhwystrwyd tra bu efe byw i'r ystorom fawr a dorrodd wedi hyny ar ben Peter Williams i'w ddiarddel o'r Corff Methodistaidd. Ond os mai hyn oedd ysbryd yr arweinwyr, nid dyma'r ysbryd a lywodraethai ymhlith pregethwyr cynorthwyol y Diwygiad. Ceir engraifft nodedig o hyn yn Sir Benfro.