Yr oedd Howell Davies yn Uchel Galfinydd. Llywodraethid rhai o'i gynorthwywyr yn fwy gan ysbryd dadl dduwinyddol na chan ysbryd cariad yr Efengyl. "Celain," ebe Wesley yn ei ddyddlyfr,[1] "fod gwaith yr Arglwydd yn Sir Benfro wedi cael ei rwystro, yn bennaf gan bregethwyr Mr. Davies, y rhai a enllibient yn barhaus ein pregethwyr ni, gan rwystro felly llawer rhag dod i'w gwrando. Yr oeddent hwythau (y Wesleyaid) weithiau wedi cael eu cynhyrfu i'w hateb, yr hyn a wnai bethau yn waeth. Y cyngor a roddais iddynt oedd: 1. Fod i bawb ymgadw rhag athrodi, adrodd chwedlau, na siarad yn ddrwg y naill am y llall. . Fod i'm holl bregethwyr, pan ddifenwir hwynt, i beidio difenwi drachefn, nac i ddadleu yn gyhoeddus na chyfrinachol. 3. Fod iddynt beidio pregethu ar bynciau dadleuol, ond ar grefydd syml ac ymarferol."
Dyna'r ysbryd tangnefeddus ymron dieithriad a ddangosodd y ddau Wesley tuagat eu cydweithwyr yng Nghymru. Dyna'r ysbryd hefyd a lywodraethodd ymddygiadau Daniel Rowlands, Williams Pantycelyn, a Peter Williams. Ond nis gellir dweyd hynny am Howell Harris. Am yr ysbryd a'i llywodraethai ef, nis gellid dweyd "o ba le y mae yn dyfod nac i ba le y mae yn myned." Wrth ddarllen ei ddyddlyfr, gwelwn ef yn mynd o'r naill eithafion i'r llall, weithiau yn canmol, weithiau yn dwrdio Wesley; heddyw yn cyduno ag ef, yforu yn ei wrthwynebu; un diwrnod yn ei gondemnio, trannoeth yn edifarhau a syrthio ar ei fai; un tro yn ceisio torri o dan seiliau awdurdod Wesley, dro arall yn ymosod yn ffyrnig ar gyd-lafurwr am ddarfod i hwnnw feiddio amheu mai John Wesley oedd Pen y Diwygiad. Ni fyddai yn fuddiol dilyn y wedd yma yn rhy fanwl, ond tegwch â chymeriad John Wesley, ac â'r rhan a gymerodd yn y gwaith yng Nghymru, yw rhoi ychydig ddyfyniadau o ddyddlyfr Howell Harris ei hun, er dangos perthynas y ddau â'u gilydd.
"Daethum i Gaerdydd, ac aethum i Ystafell y Seiat i wrando'r Brawd Wesley. Galwyd fi i fyny at y ddesc at Wesley.
Tra y cynghorai efe'r bobl, syrthiodd tawelwch mawr ar fy enaid. Yn y goleuni hwn gallaswn farw dros bawb, a gallaswn fynd wrth ochr y Brawd Wesley drwy'r tân; teimlais gariad mawr tuag ato, ac ymgystuddiais am unrhyw air a leferais yn ei erbyn, ac nis gallwn oddef i neb llefaru yn ei erbyn. Yr oedd Wesley yn selog dros undeb, ac yn erbyn ymraniadau.
Pwy a ŵyr nad yw Duw yn fy arwain i blith y Wesleyaid i'w harafu? Yr Arglwydd a'm dygodd yma, a phrofais yr un llawenydd wrth ddod at fy anwyl Frawd Wesley, ag a deimlais wrth ddod at fy anwyl Frawd Whitefield dair blynedd yn ol, a theimlaf fod fy nghymdeithas (fellowship) a'm Brawd Wesley wedi cael ei weithio ynnof
- ↑ Wesley's Journals, vol. iv., p. 328.