Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/301

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan yr Arglwydd, yn erbyn rhagfarnau blaenorol a ffurfiwyd trwy wrando ystoriau am dano a'i bregethu yn erbyn yr hyn a dybiwn oedd yn iawn."[1] Ymhen tair wythnos yr oedd wedi newid ei farn. Dywed:—"Yn awr yr ydym yn dechreu gweled pethau yn y Wesleys sy'n gwneud i ni eu hamheu—Rhagrith—derbyn arian—swllt y chwarter gan bob un: £300 o bunnau yn Llundain—pregethu cyfeiliornadau yn barhaus—ddim yn syml."[2]

Ym mis Mai, 1748, ysgrifenna yn Llundain:—"Ymosodais ar y Brawd Blake yn arbennig am ei fod yn ymddangos i mi yn chwyddedig, ac yn coleddu ysbryd drwg tuag at y Brawd Wesley, ac nad oedd ef (Blake) a rhai eraill yn canfod fod Wesley wedi cael ei anrhydeddu gan yr Arglwydd, yr hwn a'i gosododd yn Ben y Diwygiad hwn. Rhoddais hanes ei ddyfodiad i Gymru. Fy nymuniad yw gweled teimlad ac ysbryd da tuag at bawb dynion, ïe, fel y mynnai yr Arglwydd i hynny fod byddem farw i ni ein hunain, ein cynlluniau a'n rhagfarnau, ac yn foddlon i gael ein harwain gan yr Arglwydd fel y mynno Efe."[3]

Ymhen naw niwrnod ar ol hyn ysgrifenna drachefn:—"Wedi i Mr. Whitefield roddi gofal yr eneidiau i Mr. Wesley, daethum i Lundain. Pregethais gyda Mr. Wesley; ond can gynted ag y cefais ei fod yn dal athrawiaeth perffeithrwydd dibechod, a syrthio yn y diwedd oddiwrth wir ras, torrais gysylltiad allanol ag ef, er na chollais fy serch tuag ato fel Brawd a Gweinidog Crist; a phan welais y modd yr oedd yr Arglwydd yn gweithio drwyddynt, nis gallaswn oddef clywed neb yn eu dirmygu; ac am hynny gelwir finnau hefyd yn Wesley ac yn Antinomiad."[4]

Ymhen mis cyferfydd mewn math o gynhadledd anffurfiol â Charles Wesley a George Whitefield yn Llundain, a dywed:—

"Pan glywais am lwyddiant dirfawr y Wesleyaid yn y Werddon, teimlais eiddigedd yn lle llawenydd, ac nis gallaswn lawenhau tan i'r Oen Anwyl wenu arnaf. Wedi hynny, pan wnaed cynygiad i uno drachefn, gwelais nas gallesid gwneud hynny heb (1) ymgynghori â'r pregethwyr yn Lloegr a Chymru; (2) heb osod i lawr ragseiliau, a holi cwestiynau o bob tu. Ymddengys i mi fod hyn fel Plaid, yn amhosibl, gan nad ymostynga'r naill adran i Ben y llall—Mr. Wesley na Mr. Whitefield.[5]

Erbyn hyn, mae y dirywiad yn Harris i'w ganfod yn amlwg yn ei ddyddlyfr. Yr oedd ei uchelgais wedi cael ei gynhyrfu, ac yntau a'i olwg ar gymeryd lle Whitefield fel Pen yr Adran Galfinaidd. Ymdrinir yn helaethach ar hyn mewn pennod arall. Ond yma, wrth fyned heibio, gellir dweyd fod hanes Harris, fel y'i hadroddir ganddo ef ei hun yn ei ddyddiaduron, yn rhoi sail cryf i gredu mai "Wesley a Harris" oedd yn ei feddwl, pan ysgrifennai "Wesley a Whitefield" yn y dyfyniad uchod. Yn yr un dyddlyfr, ä ymlaen i ddweyd:—

"Oh! gymaint o hunan dirgel (secret self) wyf yn deimlo sydd ynnwyf! Pan ddywedodd Mr. Newton y buasai eu holl bregethwyr hwy yn ufuddhau i Mr. W—(Wesley) pe y cynygiai efe unrhyw beth, dywedais

  1. Dyddlyfr Howell Harris, Rhif 86, Mawrth 3, 1741—2.
  2. Eto, Mawrth 22, 1741.
  3. Eto, Rhif 131A, Mai 31, 1748.
  4. Eto, Meh. 9, 1748.
  5. Eto, Rhif 131B, Gorff. 7, 1748.