Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/303

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwas a chynorthwywr Howell Harris, hwynt i'r Llyfr Cofnodion sydd yn awr ar gael yn Nhrefecca. Ymhlith y Cymry a geir yn cymeryd rhan yn y naill neu'r llall o'r Cymdeithasfaoedd hyn, yn ol y Llyfr Cofnodion hwn, cawn y rhai canlynol:—Harris, Pugh, Thomas Price (Watford), Herbert Jenkins, James Beaumont, James Ingram, a John Lewis, yng Nghymdeithasfa Bryste, Mawrth, 1745. Yna, ar ol dychweliad Whitfield o'r America, cawn Gymdeithasfa Llundain, Ebrill, 1749, gyda Whitefield, Harris, Adams, Reilly, a James Ingram—oll yn weithwyr yn y maes Cymreig yn bresennol, a'r Saeson yn absennol. Felly, hefyd, i raddau pell, yng Nghymdeithasfa Abergafenni, Mehefin, 1749, pan oedd yn bresennol Whitefield, Harris, Thos. Price, Thos. Williams, Thos. James, Thos. Meredydd, Joseph Smith, James Ingram, Wm. Humphreys, a Wm. Jones—gweithwyr yng Nghymru ymron yn ddieithriad. Eto yn Llun—dain, Medi 1, 2, 4, 6, a 7, 1749, Cymdeithasfa yn para am bum' niwrnod, cawn Whitefield, Harris, Adams, Reily, Beaumont, Stevens, Meredith, Ingram, a Smith. Ceir manylion pellach am y Cofnodion hyn, a'r goleuni a daflant ar ran o gysylltiadau'r gwaith yng Nghymru, mewn pennod arall. Ar hyn o bryd canolwn sylw ar berthynas y brodyr yn y Gymdeithasfa â Wesley, yn ei gysylltiad ef yn bennaf a'r gwaith yng Nghymru. Cofier fod Whitefield ar hyd yr amser yma yn yr America.

Yn Awst, 1744, darllenodd Cennick lythyr oddiwrth Chapman mewn perthynas i'w anghydwelediad ef â Wesley,—ond ni chymerodd y Gymdeithasfa unrhyw fesurau mewn perthynas â'r mater.

Medi, 1746. "Gan fod y Brawd Godwin am gael ymuno â ni, ac yn cydnabod ei fai am fwriadu o hono ymuno â'r Morafiaid ac a'r Brawd Wesley, ac yn flin ganddo am rai geiriau a ddefnyddiodd, a chan fod y brodyr yn dyner tuag ato, ac eto yn ofni rhag y gallai fod yn ansefydlog, penderfynnwyd iddo gael mynd i Bryste at y Brawd Reilly am naw niwrnod, yna gyda'r Brawd Jenkins am ychydig, ac yna gyda'r Brawd Harris i Drefecca, ac yna gyda'r Brawd Adams hyd y Gymdeithasfa, modd y gallai fod ar brawf o danynt oll."

Dengys y dyfyniadau uchod o'r Cofnodion fod gwaith a dysgeidiaeth Wesley yn blino llawer ar ysbryd y brodyr yn y Gymdeithasfa. Erbyn dechreu 1747, penderfynnwyd ceisio dod i well dealltwriaeth, a chynhaliwyd Cymdeithasfa unedig yn Bryste, Ionawr 22, 1747. Yn hon yr oedd yn bresennol John Wesley, Howell Harris, Adams, Ingram, Reilly, Jenkins, ac eraill, gyda phedwar o ganlynwyr Wesley—y Calfiniaid ymron oll yn Gymry, a'r Wesleyaid yn ddieithriad yn Saeson. Yma, fel yn yr anghydfod yn Sir Benfro (gwel tudal 284) cawn esboniad ar ran o'r dirgelwch; Saeson, wedi cael cryn lawer o addysg, ac yn hollol anghymwys i ddeall meddwl y Cymro gwledig, oedd cynorthwywyr Wesley fel rheol; Cymry, heb gael nemawr addysg, ac yn edrych gyda gradd o rywbeth mwy na drwgdybiaeth ar y Saeson mwy dysgedig, oedd pregethwyr cynorthwyol y Calfiniaid yng Nghymru: nid oedd y ddwy elfen