yn toddi yn naturiol y naill i'r llall. Wele gyfieithad o'r Cofnodion sy'n dal cysylltiad â Wesley:—
"Ar ol gweddio holwyd:—
1. Pa fodd y gellir symud y rhwystrau fodolant i gariad brawdol.
2. Pa fodd y gellir rhwystro y cyfryw i godi eto yn y dyfodol.
1. Am Thomas Prosser, Cynghorwr yng Nghymru, cysylltiedg â Mr. Wesley, a ddrwgdybir o gyfeiliornad, bydded i'r Brawd Haughton (un o ganlynwyr Wesley) geisio ganddo egluro ei egwyddorion, a gofyn iddo a yw yn foddlon bod yn ddarostyngedig i Mr. Wesley ac i ni.[1]
2. Am Henry Lloyd, Cynghorwr arall yng Nghymru, a aeth oddi-amgylch ymhlith ein Seiadau ni heb ymgynghori â ni, bydded iddo ein cyfarfod yng Nghymdeithasfa Morgannwg, yn Ebrill, ac na fydded iddo wneud dim yn Sir Frycheiniog, ond trwy gydsyniad Mr. Phillips (offeiriad Maesynys, a chanlynwr Wesley) a Thomas James (un o'r Cynghorwyr Calfinaidd o dan Whitefield).
3. Am Gymru yn gyffredinol. Ofnid mai canlyniad gwaith Mr. Wesley yn pregethu yng Nghastellnedd a fyddai ymraniad yn y Seiad.[2] Atebodd Mr. Wesley:—
"Nid wyf yn bwriadu sefydlu unrhyw Seiad yng Nghastellnedd, nac mewn unrhyw dref arall lle mae Seiad eisoes yn bodoli, ond gwnaf bopeth yn fy ngallu i rwystro unrhyw gyfryw ymraniad.[3]
- ↑ Cymerodd Wesley y cyfle cyntaf i fynnu gweled Thos. Prosser ei hunan. Dyma ddywed am dano:—"Treuliais beth amser gyda T. Prosser, yr hwn oedd wedi llenwi'r seiad ag ofer siarad. Cefais fod y bai yn fwy yn ei ben nag yn ei galon; mae yn ddyn gonest, yn bwriadu yn dda; ond nid oes mwy o gymhwysder ynddo gan natur na gras i esbonio'r Ysgrythyrau nag sydd i areithio ar Resymeg neu Algebra. Ac eto cymer rhai dynion call y dyn tywyll hwn i fod yn llawer dyfnach nag ydyw. Ac y mae hynny'n naturiol. Os edrychwn i bydew tywyll ymddengys yn ddwfn; ond y tywyllwch yn unig sy'n gwneud iddo ymddangos felly. Dyger goleuni ato, a chawn weled mai bâs iawn ydyw." (Wesley's Journals, vol. ii. p. 408).
- ↑ Mae yn anhawdd gwybod ar ba sail y gwnaed y cyhuddiad yn erbyn Wesley. Yn ei ddyddlyfr (Awst 18, 1746) dywed Wesley:—" Marchogais gyda Mr. Hodges i Gastellnedd. Yma cefais ddwsin o wyr ieuainc y gallaswn ymron genfigennu wrthynt. Preswylient gyda'u gilydd yn yr un ty, a rhoddent yn barhaus mewn elusen pa beth bynnag a enillent dros ben angenrheidiau syml bywyd. Yr oeddent gan mwyaf (meddent wrthyf) yn gredinwyr mewn Etholedigaeth, ond mor lleied oedd eu rhagfarn fel na chaniataent i neb o'r Predestinariaid (h.y., y Calfiniaid) i bregethu yn eu plith os nad ymgadwai rhag pob dadleuaeth. Ac ar yr un amodau derbynient yn llawen rhai o'r farn wrthwynebol (h.y., y Wesleyaid)." John Richards oedd arolygwr Seiad Castellnedd. Ceir ei adroddiadau yn ysgrifau 68 A. B. C. a D. yn Nhrefecca. Nid oes dydd—iadau iddynt, na manylion o gwbl am Seiad Castellnedd. Dywed am gyffredinolrwydd y Seiadau dan ei ofal,—" Amryw ganghennau sychion ymhlith y Societies, a rhai wedi crino, a syrthio ymaith" (68 A.) "Nos tywyll ar y cyffredinolrwydd o honynt" (68 c.) "Llawer yn rhodio ymhell oddiwrth Dduw " (68 D.) Os mai dyna gyflwr Seiad Castellnedd, prin yr oedd yn deg i Gymdeihasfa Bryste daflu'r bai ar bregethu Wesley.
- ↑ Cadwodd Wesley ei addewid. Nid ymwelodd â Chastellnedd wedyn am ddeng mlynedd—ond cafodd erbyn hynny fod yno Seiad Wesleyaidd wedi ei sefydlu, ac ystafell gyfleus i'w cyfarfodydd yn eiddo iddynt. (Wesley's Journals, vol. iii. p. 343).