Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/308

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'n amlwg fod Charles Wesley yn cyfleu syniad hollol gywir yn y llythyr uchod, canys cawn ei Harglwyddes yn ysgrifennu ei hun at Wesley, gan ddweyd:—

"Yr wyf yn wir ddiolchgar i chwi am eich cynyg caredig i wasanaethu yn y capel yn Bath yn ystod eich arhosiad yn Bryste. Hyderaf fod yr undeb hwn a gychwynwyd yn awr yn un ag a fydd yn ychwanegu ein ffydd a'n cariad y naill at y llall. Buddiol yw i'r achos goreu os ceir ni yn ffyddlon ymlaenaf oll i'r Arglwydd, ac yna i'n gilydd. Gwelaf eto rywbeth yn eisieu, a hynny yw, trefnu cyfarfod yn awr ac eilwaith, rhyngoch chwi, a'ch brawd, a Mr. Whitefield, a minnau, modd y gallem gyfnewid syniadau ar gyflwr cyffredinol y gwaith. Dichon y ceid goleuni felly, a buasai yn arweiniad i minnau, gan fy mod mewn cysylltiad â chynifer."[1]

Parhaodd yr undeb brawdol a Christnogol hwn tra bu Whitefield byw. Ar ol ei farw ef aeth yn rhwyg rhwng y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleyaidd, ac o hynny allan ni fu a wnelai'r Iarlles Huntingdon ddim â'r ddau Wesley. Erbyn hyn mae mwyafrif yr achosion a adwaenid fel y "Lady Huntingdon's Connexion," i sefydlu y rhai y gwnaeth Whitefield gymaint, wedi cael eu llyncu yn yr Enwad Anibynnol.

Wedi gweld claddu'r naill a'r llall o gymdeithion ei ieuenctyd, holl aelodau Clwb Santaidd Rhydychain a gychwynasant gydag ef ar yrfa'r Cristion Ymroddgar, aeth John Wesley ymlaen mor wrol yn bedwar ugain oed a phetae yn llanc deunaw mlwydd. Am hanner can mlynedd arferai bregethu bob boreu am 5 o'r gloch. Pan yn 83 mlwydd oed dioddefai lafur a lludded corfforol nad oes nemawr i ddyn heddyw yn anterth ei nerth a fedrai ei ddal,—ac eto, dywed na theimlodd ddim tebyg i flino corfforol! Am faint y gwaith a gyflawnodd yn Lloegr a Chymru, yn yr America a'r Werddon, amhosibl fuasai dweyd gormod. Dichon y buasai llwyddiant mwy cyffredinol ar ei lafur yng Nghymru, petae wedi gofalu am gael Cymry o ran iaith a gwaed fel cynorthwywyr lleol iddo. Hyn a fu diffyg mwyaf ei gyfundrefn ef yn y Dywysogaeth.

Ond wedi marw Wesley yn 1791, ni chafodd y gwaith farw. Yr oedd wedi magu meibion a merched, y rhai a fynnent

  1. Life and Times of the Countess of Huntingdon, vol. i., p. 476.