barhau gwaith eu tad ysbrydol. Yn 1800, ffurfiwyd y Dalaeth Gymreig a thaflwyd yni a bywyd newydd i'r holl fudiad Wesleyaidd yn y Dywysogaeth. Bu cynnydd Wesleyaeth wedi hynny yn gyflym ac amlwg. Yn wir, ni ddanghoswyd ar unrhyw adeg yn nyddiau mwyaf blodeuog y Diwygiad Mawr, cyffelyb brofion diamheuol o ddylanwad argyhoeddiadau crefyddol ar y bobl, ag a gafwyd yn hanes dadblygiad Wesleyaeth Gymreig ym mlynyddau cyntaf y 19fed ganrif. Os sylwir ar Dangoslun III., gwelir fod cynnydd Wesleyaeth Gymreig o'r flwyddyn 1800 hyd 1830 wedi bod yn fwy, yn amlycach, yn gyflymach, na'r un o'r enwadau eraill. Ychwanegwyd 1271 at eu haelodaeth, ac adeiladwyd pymtheg o gapeli newyddion o fewn corff un flwyddyn—a hynny pan oedd yr enwad, fel enwad, yn wan. Nid rhanol na lleol, ond cyffredinol oedd yr ymdrech a'r llwyddiant. Gwyddai llywiawdwyr y mudiad pa fodd i fanteisio ar amgylchiadau ac anghenion gwahanol pob ardal. Mewn un ardal boddlonent ar lofft ystabl fel ty cwrdd; yr un flwyddyn, yn y sir agosaf, codwyd capel hardd yn werth £4000,—ac addolid mor wresog yn y naill a'r llall. Gofynnai gyfrol o faintioli'r llyfr hwn i wneuthur dim tebyg i gyfiawnder âg ymdrech, llafur, a llwyddiant Wesleyaeth yng Nghymru pan ddechreuwyd cario'r gwaith ymlaen ar linellau Cymreig. Ac, o dan fendith Duw, olrheinir yr oll i ddylanwad ac ysbrydiaeth y gwr da, yr hwn a ddanghosodd gyffelyb zel a brwdfrydedd ar ddiwedd oes hir o lafur, ymron digyffelyb, ag a ddanghosodd pan yn llencyn ieuanc yn Rhydychain y cychwynnodd ar ei yrfa grefyddol.
Nodiadau
Seiadau Wesley yng Nghymru
Ni chaniata gofod i mi roi cyfrif a dyddiadau gwahanol ymweliadau John Wesley â'r Dywysogaeth. Ca'r darllenydd syniad am danynt wrth edrych ar y Map Rhif 4, sy'n dangos ffrwyth ei lafur personol yng Nghymru. Fel cynhorthwy pellach, rhoddir yma yn eu siroedd, enwau'r holl leoedd y bu yn pregethu ynddynt. Ymwelodd â llawer o'r rhai hyn amryw weithiau drosodd. Ceir y llythyren "s" ar ol enwau'r lleoedd y sefydlodd efe ei hun Seiadau Wesleyaidd ynddynt. Dynoda'r llythyren "c" fod Capel neu Addoldy Wesleyaidd wedi cael ei sicrhau yno, naill ai drwy adeiladu neu brynu, yn ystod ei fywyd ef.