Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

barhau i arfer llawer o'u defodau Pabyddol, pe boddlonent i'w chydnabod hi, ac nid y Pab, fel Pen yr Eglwys. Er clod i'w cysondeb, gwrthodasant. Dau o'r Esgobion yn unig[1] a gymerasant y llw angenrheidiol. Amddifadwyd y lleill o'u bywiolaethau. Carcharwyd amryw, a threuliodd Bonner y gweddill o'i oes yn y carchar. Ciliodd llawer ohonynt i'r Cyfandir. Pan alwyd ar Aelodau Ty'r Cyffredin i gymeryd cyffelyb lw, gwrthododd y Pabyddion egwyddorol wneud, gan ddewis yn hytrach golli eu seddau. Gan nad faint a wahaniaethwn oddi-wrthynt yn eu barn wleidyddol a'u credo crefyddol, nis gallwn lai nag edmygu eu cysondeb cydwybodol i'w hegwyddorion.[2]

Wedi darostwng y Pabyddion, trodd Elizabeth ei sylw at y Protestaniaid. Yn 1559 pasiodd y Senedd Ddeddf Unffurf-

  1. Nid oes enw ond un o'r ddau ar gof a chadw. Dywed Wood (Athene, cyf. i. tud. 595), a ysgrifennai yn y 17fed ganrif, nad oedd ond un. Esgob Cymreig er nad Cymro-oedd hwnnw. Anthony Kitchin, Esgob Llandaf, ydoedd. Penodwyd ef i'r Esgobaeth gan Harri VIII. Trodd yn Brotestant o dan Edward VI. Trodd yn ol i fod yn Babydd o dan Mari. Daeth yn Brotestant drachefn dan Elizabeth. Cadwodd ei Esgobaeth hyd ei farw yn 1566. Amlwg yw fod ei gyfansoddiad mor gryf ag ydoedd ei gydwybod yn wan,-canys cyrhaeddodd yr oedran teg o 90 mlwydd.
  2. Gofidus yw gorfod dweyd na cheid ond ychydig iawn o'r urddasolion Eglwysig Cymreig yn y cyfnod hwn, yn dangos cyffelyb gysondeb. Wele restr gyflawn o'r rhai a ddalient swyddi uchel ym mhob un o'r pedair Esgobaeth Gymreig a ddioddefasant oherwydd cydwybod o dan deyrnasiad Mari ac Elizabeth,—yn y blaenaf am eu Protestaniaeth, ac o dan yr olaf am eu Pabyddiaeth.
    YN ESGOBAETH BANGOR.
    1. Yr Esgob Maurice Glennock. Enwebwyd ef i Esgobaeth Bangor gan Mari ar farwolaeth William Glynn. Ond gan i Mari farw cyn ei gysegriad, ciliodd ef i'r Cyfandir ar esgyniad Elizabeth, yr hon a benododd Rowland Meyrick i'r Esgobaeth.
    2. Y Deon Robert Evans. Trowyd ef allan o'i ddeoniaeth gan Mari yn 1554 am iddo briodi, yr hyn oedd yn drosedd yn erbyn deddf gweddwdod y clerigwyr. Er hynny cafodd Reithoriaeth Llanllechid, ac yn 1557 ail benodwyd ef i'r ddeoniaeth.
    3. John Salisbury, Archddiacon Mon, a drowyd allan gan Mari am ei Brotestaniacth. Ail benodwyd ef gan Elizabeth.
    4. Griffith Roberts, Archddiacon Mon, a drowyd allan am ei Babyddiaeth gan Elizabeth, i wneud lle i John Salisbury.
    5. David Lloyd, Prebendur Penmynydd, a drowyd allan gan Mari am ddarfod iddo briodi.
    YN ESGOBAETH LLANDAF.
    Ni chafwyd un o'r urddasolion Eglwysig yn feddiannol ar argyhoeddiadau digon dyfnion i'w cymhell i aberthu dim er mwyn egwyddor.