Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/312

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ben Howell Harris. Os ydys wedi darllen yn ystyriol y penodau blaenorol, a'r cyfeiriadau ynddynt at Howell Harris yn ei berthynas a'i gydweithwyr, rhaid fod meddwl y darllenydd wedi cael ei baratoi i raddau at ran, a dweyd y lleiaf, o gynnwys y bennod hon. Dichon y dylesid adgofio'r darllenydd cyn myned ymhellach, na ddywedir dim am Howell Harris, ei waith, ei natur, a'i gymeriad, yn y bennod hon, ond a geir yn amlwg ddigon yn ei lawysgrifen ef ei hun yng nghasgliad gwerthfawr Llawysgrifau Trefecca. Gan nad beth a ellir ei ddweyd yn erbyn Howell Harris, yr oedd yn ddigon gonest i dynnu darlun cywir o hono ei hun yn y pentwr dyddlyfrau a llawysgrifau a adawodd ar ei ol yn Nhrefecca. Yn ei ddydd-lyfr ysgrifennai bopeth ddeuai i'w feddwl am dano ei hun, ei gyfeillion, a'i gysylltiadau; am Dduw, a dyn, a diafol; am lafur, a llwyddiant, a phrofedigaeth. Amhosibl, o fewn cwmpas un bennod, a fyddai rhoi syniad cyflawn am yr Howell Harris a ddatguddir yn y Llawysgrifau; amhosibl, mewn llyfr o natur hwn, yw neillduo mwy na phennod iddo; dylai gael llyfr cyflawn iddo ei hun; mae defnyddiau llyfr o'r fath gennyf wrth law, ac os gwelir eto fod angen, neu y gallesid cyrraedd rhyw ddiben da wrth, gyhoeddi'r cyfryw lyfr, dichon y gwneir pan ddaw'r alwad. Ar hyn o bryd boddlonir ar roi bras-linelliad yn unig o brif nodweddion bywyd a gwaith un o'r cymeriadau mwyaf cymysg-gyfansoddedig a ymddengys o gwbl ar lwyfan Y Diwygiad yng Nghymru. Cafwyd yn nyddiau Cromwell a'r Weriniaeth aml i gymeriad hynod, dynion a bregethent Efengyl Tangnefedd ond a oeddent gedyrn mewn rhyfel, rhai a aent i'r frwydr a chledd mewn un llaw a'r Beibl agored yn y llall, a ganent Salmau ac a waeddent orchymynion i'w milwyr yn yr un anadl. Darlunir Vavasor Powell ar y naill law fel y dyhirin gwaethaf, ac ar y llall fel y sant perffeithiaf. Nid oedd efe y naill na'r llall; ei elynion dynasant un darlun, ei edmygwyr y llall; tebyg y ceir y darlun cywir o honno yn y canol rhwng y ddau, dyn ydoedd wrth natur yn meddu cynneddfau a thueddiadau a allasent ei wneud yn un o ddyhirod penaf ei