adlewyrcha glod nid bychan arnynt eu bod, yng ngwyneb anfanteision mor fawr, yngwyneb bygythion cyfraith y tir, yngwyneb erlid, a dirwyon, a charchar, wedi cadw fflam lamp gwybodaeth a dysg y pwlpud yng Nghymru fel yn Lloegr, i losgi mor ddisglaer ag y bu. Bu hyn yn nerth ac yn wendid iddynt; yn nerth iddynt yn ogymaint ag y cadwodd safon dysgeidiaeth a gwybodaeth y pwlpud yn uchel, a'i safle yn anrhydeddus; yn wendid yn ogymaint a'i fod yn amddifadu'r enwad o wasanaeth doniau cartrefol a allasent fod wedi bod yn adgyfnerthiad pwysig iddo. Un o wersi daionus y diwygiad i'r Anibynwyr, oedd eu dysgu i wneuthur defnydd helaethach, mwy cyson a chyfundrefnol, o'r doniau cartrefol hyn fel ategion gwerthfawr i'r weinidogaeth reolaidd. Ond yr oedd natur amgylchiadau'r oes, eangder maes gwaith pob eglwys, at y rhai y cyfeiriwyd mewn pennodau blaenorol, yn gyfryw ag oedd yn gofyn dynion yn feddiannol ar gymhwysderau arbennig i fod yn fugeiliaid ar eglwysi mawrion a gwasgaredig y dyddiau hynny. Ceid eithriadau, mae'n wir; ond nodwedd Tadau Ymneillduol yr oes fel dosbarth, oedd dynion mewn sefyllfa fydol gysurus, o safle gymdeithasol dda, o ddysgeidiaeth ddofn a disgybledig. Fel engraifft o'r eithriadau gellir nodi Edmwnd Jones, Pontypwl, yr hwn ni flinid â gormodedd o dda'r byd hwn; ac o'r rheol gyffredin dynion fel Matthew Henry, Henry Maurice, a Phylip Pugh, &c. Ond am yr eithriadau a'r rheol gellir dweyd" Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny."
Yn ysgol proffwydi'r Anibynwyr, ynte, y derbyniodd Howell Harris a Williams, Pantycelyn, eu holl addysg athrofaol. Dylanwad un arall o broffwydi'r Anibynwyr—Phylip Pugh—a wnaeth Daniel Rowlands yn ddiwygiwr selog a thanllyd. Dywedais mai mewn Athrofa Anibynnol y derbyniodd Howell Harris ei holl addysg. Camgymeriad tra chyffredin yw ei fod wedi treulio gryn amser ym Mhrifysgol Rhydychain, ac mai anuwioldeb gwarthus y myfyrwyr yno a wnaeth iddo dorri ar gwrs ei efrydiaeth yno, a dychwelyd i Gymru. Fel mater o ffaith ni threuliodd Howell Harris gymaint ag wythnos