ffaith mai prin tridiau a dreuliodd Howell Harris yn Rhydychain, yn help, a dweyd y lleiaf, i'w benderfyniad i beidio ei drwyddedu fel pregethwr eglwysig.
Teimlodd Harris hyn gymaint, fel y penderfynnodd ar un adeg i roi heibio ei waith fel Efengylydd,[1] i fynd yn ol i'r ysgol, ac i gymhwyso ei hun at waith y weinidogaeth yn Eglwys Loegr. Mae yn fwy na thebyg y buasai wedi cario'r bwriad hwn allan, ac y buasai wedi dadblygu i fod yn urddasolyn Eglwysig heb son erioed am dano mewn cysylltiad â Chymdeithasfaoedd y Methodistiaid, oni bai am ddylanwad personol ac uniongyrchol dau Fedyddiwr enwog arno—Miles Harri, o Bontypwl, a Joseph Stennett, Llundain ac Abergafenni. I'r ddau weinidog Bedyddiol hyn y mae Methodistiaeth Cymru, ai hen ai diweddar, i ddiolch am hynny o ran a allant hawlio yn Howell Harris.[2]
Os oes un peth yn amlycach nag arall ynglŷn â gyrfa foreuol Harris fel Efengylydd a Diwygiwr, dylanwad Ymneillduwyr, yn Anibynwyr a Bedyddwyr, arno, yn ei gymhell i'r gwaith, ac i'w gynnal a'i gefnogi ynddo, yw'r peth hwnnw.
O dan Vavasor Griffith, yn Llwynllwyd, y cafodd ei addysg.[3] Gweinidogion Ymneillduol oedd ei gydweithwyr cyntaf. Edmund Jones, Pontypwl, a agorodd Eglwysi Anibynwyr Mynwy.[4] a Miles Harri, Pontypwl, Eglwysi Bedyddwyr Mynwy,[5] iddo. Davies, Hwlffordd, agorodd ddrws yn sir Benfro,[6] a James Davies ynghylch Merthyr.[7] Gwnaeth David Williams, Watford,[8] a Howell Griffith, Trefeirig,[9] yr un peth ym Morgannwg. Lewis Rees, Llanbrynmair, a'i dygodd gyntaf i'r Gogledd.[10] Trefnai y rhai hyn ei deithiau a'i gyhoeddiadau iddo, a chydnabyddid ef am ei lafur. Casglodd y Bedyddiwr enwog, Joseph Stennett, arian yn Lloegr i'w gynorthwyo.[11] Yr oedd hyn oll cyn iddo ddod i gysylltiad agos â'r Eglwyswyr a fuont wedi hynny yn gydweithwyr mor ymroddgar iddo. Ac wedi ffurfio'r cysylltiad hwnnw, ac wedi sefydlu o Whitefield y Gymdeithasfa yn Watford,[12] parhaodd amryw o'r Anibynwyr, er nid o'r Bedyddwyr, eu cysylltiad swyddogol âg ef ac â'r mudiad. Ymhlith y rhai hyn gellir enwi Henry Davies, Blaengwrach;[13] Lewis Rees, Llanbrynmair[14] Benjamin Thomas, Brycheiniog;[15] William Edwards[14] a Thomas Williams, y Groeswen;[14] Morgan John Lewis, New Inn;[14]
- ↑ Llythyr 72; eto, Meh. 8, 1743; eto, Gorff. 18, 1743, &c.
- ↑ Llythyr 72.
- ↑ Y Dyddlyfr.
- ↑ Llythyr 24, 47.
- ↑ Llythyr 48.
- ↑ Llythyr 12
- ↑ Llythyr 39.
- ↑ Llythyr 36.
- ↑ Llythyrau 21, 25, 26; eto, Mawrth 3, 1743.
- ↑ Llythyr 88.
- ↑ Llythyr 72.
- ↑ Cofnodion y Gymdeithasfa, a Llythyrau Whitefield.
- ↑ Llythyrau 41, 63, a'r Cofnodion.
- ↑ 14.0 14.1 14.2 14.3 Y Cofnodion.
- ↑ Llythyr Chwef. 19, 1745, a'r Cofnodion.