Benjamin Tibbott, Llanbrynmair;[1] ac amryw eraill. Mynychai y rhai hyn gyfarfodydd y Gymdeithasfa, er yn weinidogion cydnabyddedig Eglwysi Anibynnol,[2]—yr olaf a enwyd yn parhau i wneud hynny i lawr hyd ddyddiau Thomas Charles o'r Bala, ac yn cael ei osod yn bregethwr Sassiwn y Bala yn 1793.[3] Yn yr un modd pregethai Thomas Charles yn aml yn nghapeli a chyfarfodydd yr Anibynwyr.[4]
Gwanhaodd dylanwad yr Ymneillduwyr arno, fel y cryfhaodd dylanwad yr Eglwyswyr arno. Torrodd ei gysylltiad ynghyntaf oll â'r Bedyddwyr, ac wedi hynny â rhai o'r Anibynwyr. Daeth oerfelgarwch rhyngddo a David Williams, Watford,[5] a chweryl rhyngddo ag Edmund Jones, Pontypwl;[6] ond, o ran hynny, cwerylodd yn ei dro â phawb o'i gyd-weithwyr—a Thomas Price, Watford, oedd â'i ddrws bob amser yn agored, ei fwrdd bob amser yn llawn, a'i arian bob amser at wasanaeth Diwygwyr o unrhyw a phob rhyw enwad;[7] a John a Charles Wesley;[8] a Daniel Rowlands [9]—er yn derbyn cymorth ariannol ganddo;[7] ie, hyd yn oed â'i ffafr-ddynion, James Beaumont,[10] a Herbert Jenkin.[7] Mewn gair, rhestr hir o gyfeillgarwch agos a chynnes, yn cael ei ganlyn gan dymor o oerfelgarwch, ac yn aml o rwyg a theimladau chwerw, yw hanes perthynas Howell Harris ag ymron bawb a gyd—weithient âg ef ar faes y diwygiad,[11] —ie, ac â phriod ei fynwes hefyd.[12]
Yr oedd wedi torri ei gysylltiad cyfeillgar a'r Bedyddwyr cyn gwneud hynny â'r Anibynwyr. Ei gysylltiadau a'i dueddiadau Eglwysig a barodd iddo wneud pob un o'r ddau. Ond mae llai o gyfiawnhad i'w waith yn torri â'r Bedyddwyr, nag sydd i'r rhwyg a gymerodd le rhyngddo â rhai o'r Anibynwyr,—er mai rhy ychydig o esgus oedd ganddo dros wneud yr olaf. Os oedd dan rwymau i'r Anibynwyr—ac yr oedd dan rwymau mawr iddynt yr oedd dan fwy o rwymau i'r Bedyddwyr. Cafodd dderbyniad cynes a phob cefnogaeth yn ei waith fel efengylydd gan y ddau enwad; yn awr ei galedi a'i brofedigaeth, cyn casglu o hono o'i gwmpas y cyfeillion a ffurfiwyd wedi hynny gan Whitefield yn Gymdeithasfa, cafodd gydymdeimlad yr Anibynwyr,—ond cafodd gymorth sylweddol y Bedyddwyr. Wele'r amgylchiadau yn fyr. Byddant, o bosibl, yn newydd i lawer.
Trwy ei anoethineb ei hun yn bennaf, tynnodd yn ystod un o'i deithiau fel Efengylydd yn Sir Fynwy, ddigofaint swyddogion gwladol am ei ben.
- ↑ Y Cofnodion.
- ↑ Mai Anibynwyr oedd y gweinidogion hyn a'u heglwysi gwel yn nes ymlaen.
- ↑ Hanes y Sassiwn.
- ↑ Dyddlyfr Mrs. Edwards, Nanhoron.
- ↑ Dyddlyfr 131b, Awst 3, 1748, &c., &c.
- ↑ Dyddlyfr 131a, Mai 19, 1748, &c.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 Amryw gwerylon.
- ↑ Gwel y bennod flaenorol.
- ↑ Amryw gwerylon. Tybiai fod ysbryd yr Arglwydd yn cadw draw o'r cyfarfodydd pan fyddai Daniel Rowlands yn bresenol.
- ↑ Dyddlyfr 133, Rhag. 26, 1748.
- ↑ Dyddlyfr 139, Rhagfyr 14, 1749.
- ↑ Dyddlyfr 152a, Meh. 28, 1751.