iddynt.[1] Trodd Howell Harris, i raddau pell, o fod yn Efengylwr Rhydd, i fod yn fath o Ringyll Adgyflenwadol (recruiting sergeant) i Eglwys Loegr. Ar adegau cawn ambell i fflach o hen oleuni pur yr Efengylydd, a feddyliai fwy am gadw eneidiau nag am adgyfnerthu'r Eglwys; pregethai ambell dro mewn Capeli Ymneillduol, er nad mor fynych a chynt—ac nid o gwbl tan y diflannodd pob gobaith y gallai ddylanwadu ar yr esgob i'w wneud yn offeiriad. Yn y Gymdeithasfa, pan y'i ffurfiwyd gan Whitefield, Harris oedd y dylanwad mwyaf Ceidwadol; yr oedd yn fwy cul-Eglwysig ei syniadau na Daniel Rowlands na Williams, Pantycelyn. Efe oedd uchaf ei lef bob amser yng nghyngor y Gymdeithasfa yn erbyn gwneud dim a allai ymddangos fel cydgystadleuaeth ag Eglwys Loegr; ei wyneb ef oedd galetaf o bawb yn erbyn dim a allai sawru o geseilio Ymneillduaeth. Ar ei waethaf ef y mynnodd y Gymdeithasfa gyfreithloni cymuno o'r aelodau yn y Capeli Ymneillduol; am na foddlonai aelodau'r Groeswen dderbyn ei syniadau Eglwysig ef y cymerodd arno ei hun i geisio—a methu gweinyddu disgyblaeth arnynt, gan edifarhau trannoeth am geisio gwneud; am fod Thomas Williams, cyd-weinidog William Edwards, yn y Groeswen, yn dymuno cael ei urddo, fel rhyw weinidog Ymneillduol arall, y cymerodd Harris arno ei ddisgyblu yntau. Ambell dro caffai ymweliadau grasol o'r hen ysbryd tangnefeddus, brawdol; blinai yn ei ysbryd am deimlo mor chwerw at yr Ymneillduwyr; yng ngoleuni'r ysbryd hwn canfyddai eto y rhinweddau hynny ynddynt a gynhesodd ei galon atynt yn y dyddiau gynt, a chawn ef yn ei ddyddlyfr yn rhoi amlygiad i'r teimladau hynny. Mae rhannau o'i ddyddlyfr yn dryfrith o gyfeiriadau cymysgedig o dda a drwg, o ddrwgdybiaeth ac ymddiried, o serch a gelyniaeth anghymodlawn at y "Dissenters," sy'n hollol nodweddiadol o gymeriad cymysg—ryw y gwr hynod hwn.[2]
Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/321
Gwedd