Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/322

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tybir yn gyffredin ei fod, ymron o ddechreu ei yrfa, wedi mynd yn bregethwr ar led. Ymddengys mai camgymeriad yw hyn. Dechreuodd, fel y dechreuodd Wesley a'r Diwygwyr eraill, mewn dull llawer mwy anghyhoedd; cychwynodd drwy ymweled â phersonau unigol yn eu tai; drwy gasglu ychydig gyfeillion at eu gilydd i egluro iddynt yr Ysgrythyrau; drwy gynnal cyfarfodydd mwy cyhoeddus yn ymyl ei gartref ei hun, ac yna yn y cymydogaethau cylchynnol. Gwnaeth hyn am yn agos i dair blynedd[1] cyn magu digon o wroldeb i fynd tu allan i'w sir enedigol. Ac mae yn ffaith hynod a tharawiadol, mai ar wahoddiad, ac i dy, y boneddwr a ddaeth wedi hynny yn dad-ynghyfraith iddo, yr hwn oedd ar y pryd yn Uchel Sirydd Maesyfed, yr aeth Howell Harris gyntaf dros derfynnau Sir Frycheiniog fel Efengylwr cyhoeddus.[2]

Cyfeiriwyd yn y ddwy bennod flaenorol at gysylltiad Howell Harris â Whitefield a Wesley. Hyd yn oed yn y cyfnod boreuol hwnnw, ac yn ei gysylltiad â hwynt fel yn ei gysylltiad â'r Ymneillduwyr, daeth rhai o wendidau ei natur i'r golwg. Yn ei ddyddlyfr ceir aml i brawf o'r modd yr ymladdai yn erbyn seirff eiddigedd a chenfigen a fynnent godi pen yn ei galon. Am lawer blwyddyn llwyddodd, y rhan amlaf, i gael y trechaf arnynt; ond wedi iddo, drwy gymorth gras a gweddi, lwyddo i hanner eu lladd, arhosent yn ddadfyw yn ei fynwes, i ddadebru mewn cyfnod diweddarach i fywyd gweithgar a melldithiol. Gwelir y teimladau hyn yn cael eu hamlygu ganddo o bryd i bryd yn ei ddyddiadur. Weithiai ymffrostiai ei fod ef ar y maes o flaen neb o'r Diwygwyr,[3] drachefn dyrry'r flaenoriaeth ymron i bawb; ac yna, gan fynd i ddyfnderoedd is fyth yn nyffryn cul ymostyngiad, ystyriai hi ei anrhydedd goreu a'i fraint uchaf, ddarfod iddo ddod i gysylltiad o gwbl â dynion mor fawr a Whitefield, Wesley, Rowlands, Edmund Jones, ac eraill a gydnabyddir ganddo fel ser disgleiriaf y Diwygiad.[4]

  1. Dyddlyfr 109. Mai 3, 1744.
  2. Dyddlyfr 109, eto.
  3. Dyddlyfr 131a; Eto, 136.
  4. Dyddlyfr 104, Tach. 1, 1743; Llythyr Rhag. 5, 1742; Eto, o Abertawe at Whitefield; Eto, Gorff. 18, 1743, &c., &c. 48 Eto, a Dyddlyfr 140, &c.