Heblaw hyn yr oedd yn feddiannol ar dymer naturiol wyllt, a'i dygai yn aml i ofid. Hyn a'i dygodd i helbul ynglŷn a'r Frawdlys ym Mynwy,[1] ac a'i harweiniodd droion i syrthio allan â rhai o'i gyfeillion goreu. Pan yn y nwydau hyn dywedai y pethau bryntaf am ei gymwynaswyr pennaf, fel Thomas Price,[2] am ei ganlynwyr mwyaf ufudd fel Beaumont ac Ingram,[3] ac hyd yn oed am ei gydweithwyr mwyaf ymroddedig fel Wesley[4] a Daniel Rowlands.[5] Dygodd ei hun o leiaf unwaith yn nechreu ei yrfa, i brofedigaeth drwy ddweyd pethau angharedig am Whitefield yn ei gefn.[6] Gallu y daran i ruo yn hytrach na'r heulwen i gynhesu, nerth y rhaiadr i ysgubo yn hytrach na nerth tawel yr afon lifeiriol, oedd eiddo Harris. Lle y caffai Whitefield wrandawiad tawel a pharchus, codai Harris wrychyn yr hen Adda, gan ddwyn am ei ben ymosodiadau gwarthus.[7] Lle y danghosai Wesley awdurdod urddasol a llywodraeth digamsyniol a digwestiwn ar y mwyaf afreolus o'i ganlynwyr, ni lwyddai Harris, wrth geisio ei efelychu, ond i fradychu gwendid ei natur, a'i anghymwysder i fod nac yn arweinydd nac yn llywodraethwr i'r bobl.[8]
Am weithgarwch diflino Howell Harris nis gall fod un cwestiwn. Am ddyfnder a gonestrwydd ei argyhoeddiadau hefyd nis gall fod amheuaeth. Mae yr un mor wir a hynny ei fod yn meddu ar rai o'r cymhwysderau hanfodol i Efengylydd llwyddiannus, yn cynnwys brwdfrydedd diddiwedd, hyawdledd lifeiriol, a difrifwch diamheuol. Ceir y nodweddion hyn yn dod i'r amlwg yn feunyddiol yn ei holl waith, pa un bynnag ai pregethu a fyddai i'r dyrfa, ai cynghori yn y Seiad, ai dadleu yn y Gymdeithasfa, ai yn esbonio'r Ysgrythyrau i fawrion y deyrnas yn drawing-rooms cyfoethogion Llundain. Nid oedd gwahaniaeth ai yng Nghymru ai yn Lloegr y byddai yn gweithio, taflai yr un yni, yr un zel, yr un brwdfrydedd i'w waith pa le bynnag y byddai. Yr oedd yn ddyn yn feddiannol